Dywedir fod James James, y mab, telynor a fyddai’n canu’i delyn yn nhafarndai’i dref enedigol yn fynych, wedi cyfansoddi’r gerddoriaeth wrth iddo gerdded adref ar hyd glan afon Rhondda. Ar ôl cyrraedd gartref, gofynnodd i’w dad gyfansoddi geiriau i fynd gyda’r alaw.

Erbyn y bore canlynol, roedd Evan wedi cyfansoddi tri phennill a weddai’n berffaith â’r alaw. Mae rhai wedi awgrymu fod y geiriau emosiynol yn ymateb i’r ffaith fod ei frawd newydd ymfudo i America, a’i fod yn awyddus i Evan adael Cymru i ymuno ag ef.

The memorial for Evan James and James James in Ynysangharad Park
Cofeb i Evan James a James James ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd.

Brin wythnos ar ôl cyfansoddi’r geiriau a’r alaw, perfformiwyd y gân am y tro cyntaf, o dan yr enw Glan Rhondda. Anrhydedd i Elizabeth John, a oedd ond yn 16 mlwydd oed ar y pryd, oedd cynnal y perfformiad cyntaf hwnnw yng nghapel Tabor, Maesteg.

Buan y lledodd y gair am y cyfansoddiad calonnog. Fe’i cyhoeddwyd mewn casgliad o ganeuon Cymreig a werthodd yn dda iawn, a daeth yn ffefryn mewn eisteddfodau a digwyddiadau gwladgarol eraill. Yn raddol, derbyniwyd mai Hen Wlad Fy Nhadau oedd anthem genedlaethol Cymru – er nad oes ganddi statws swyddogol felly, hyd yn oed heddiw.

Daeth alaw James James yn boblogaidd yn y gwledydd Celtaidd eraill hefyd. Defnyddir yr un dôn ar gyfer anthem Cernyw, Bro Goth agan Tasow, yn ogystal â chân genedlaethol Llydaw, Bro Gozh ma Zadoù.

Y gantores Kizzy Crawford yn canu'r anthem genedlaethol.

Mae’r anthem bellach yn cael ei chysylltu’n ddiwahân â digwyddiadau chwaraeon Cymru, yn enwedig gemau rygbi a phêl-droed rhyngwladol. Dyma draddodiad sy’n dyddio’n ôl i 1905, pan gyfarfu timau rygbi’r undeb Cymru a Seland Newydd â’i gilydd am y tro cyntaf ym Mharc yr Arfau, Caerdydd.

Ar ôl i’r Crysau Duon orffen eu dawns ryfel frawychus, yr haka, cododd y dorf Gymreig ysbryd pawb wrth ganu’r gân ag asbri ac arddeliad. Dyma’r cofnod cyntaf o ganu anthem genedlaethol cyn digwyddiad chwaraeon rhyngwladol. A’r tro hwnnw, fe weithiodd: enillodd Cymru 3-0.

Mae ail linell yr anthem yn cynnwys teyrnged i’r “beirdd a chantorion, enwogion o fri”. Dyma sydd gan dri o ymarferwyr cyfoes Cymru ymhob un o’r doniau hynny i’w ddweud am ein cân genedlaethol.

Wales v South Africa - Under Armour Series 2017 - View of Wales team running out onto the pitch.
Tîm rygbi Cymru yn rhedeg i'r cae ar gyfer eu gêm yn erbyn De Affrica yng nghyfres Under Armour 2017.

Ifor ap Glyn yw Bardd Cenedlaethol Cymru, ac mae wedi ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith.

Er bod dros 160 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers cyfansoddi’r anthem, byddai’i hieithwedd wedi ymddangos ychydig yn hynafol i Gymry rhugl hyd yn oed bryd hynny. Ond dyna’r arddull a ddisgwylid gan awduron y cyfnod – dyna sut yr oedden nhw’n ceisio rhoi gravitas barddonol i’w gwaith. Ac rydym ni wedi cyfarwyddo â’r geiriau hyn, fel côt gyffyrddus, maen nhw’n cwtsho’r gerddoriaeth yn yr union fannau cywir.

Ifor ap Glyn with views of the Sea
Ifor ap Glyn with views of the Sea
Ifor ap Glyn gyda golygfeydd o'r môr

Yn y pen draw, y dôn sy’n ei gwneud hi – y modd y mae’n adeiladu o ddechreuad urddasol at y nodau cynhyrfus ar y diwedd. Mae’r tair llinell olaf, o “Gwlad! Gwlad!” hyd at “O, bydded i’r hen iaith barhau!” yn cyfuno dathlu ac ymbil mewn modd sy’n peri i mi sythu fy nghefn ac i flew fy ngwar godi bob tro.

Mae ein barddoniaeth a’n cerddoriaeth yn rhan enfawr o’r rheswm pam ryn ni'n cyflawni cymaint fel cenedl fach, ac mae ein hanthem yn codi ein baner fel Gwlad y Gân."

Tim Rhys-Evans oedd sylfaenydd un o gorau modern mwyaf llwyddiannus Cymru, Only Men Aloud, yn 2000. Ef hefyd yw sylfaenydd a chyfarwyddwr artistig Elusen Aloud, a’r corau Only Boys Aloud, Only Kids Aloud ac Academi Only Boys Aloud.

O’r dechrau’n deg dyma un o’r anthemau mwyaf cynhyrfus. Mae’r frawddeg gyntaf yn codi’n raddol drwy wythawd cyfan, ac mae’r dechreuad cryf hwn yn gosod naws yr anthem. Mae’r corws dwbl yn arbennig o fywiog, â’r nodau’n cael eu dal ar y gair “Gwlad”. Wrth ailadrodd y gytgan, bydd llawer o bobl yn canu’r ymadrodd olaf ("...i’r hen iaith barhau") wythawd yn uwch, a phan glywch chi stadiwm gyfan yn taro’r nodau uchel yna, mae’n brofiad mor gyffrous.

Er mai cerddor ydw i, yr hyn sy’n fy nghyffwrdd fwyaf yw’r geiriau. Y ffaith mai’r bobl gyntaf i gael eu crybwyll yw’r beirdd a’r cantorion, nid milwyr na rhyfelwyr, mae hynny’n wych. Mae’r ffaith fod anthem yn rhoi blaenoriaeth mor amlwg i ddiwylliant yn dweud llawer amdanom ni fel gwlad. Mae ein barddoniaeth a’n cerddoriaeth yn rhan enfawr o’r rheswm pam ryn ni'n cyflawni cymaint fel cenedl fach, ac mae ein hanthem yn codi ein baner fel Gwlad y Gân.

Only Men Aloud yn canu Hen Wlad Fy Nhadau

Mae Caryl Thomas yn brop penrhydd i dîm rygbi undeb merched Cymru, ac mae hi wedi ennill dros 50 cap rhyngwladol.

Y tro cyntaf i fi glywed Hen Wlad Fy Nhadau oedd pan wnes i ganu’r anthem yn yr ysgol gynradd. Rydw i wedi bod yn rhywun tanbaid, gwladgarol erioed, ac roedd yr anthem yn bwydo hynny.

Erbyn hyn, dyma un o’r pethau gorau am chwarae dros fy ngwlad. Mae’n gymaint o fraint gallu sefyll yno gyda’ch cyd-chwaraewyr a chanu o flaen eich torf chi, a’ch teulu. Mae’n tanio’r adrenalin hefyd. Os nad ydych chi’n canu, mae’n tynnu rhywbeth oddi wrth y gêm, yn fy marn i.

England Women v Wales Women - Natwest 6 Nations - Caryl Thomas of Wales takes on Amy Cokayne of England
Wales under 20s women rugby players
Caryl Thomas yn chwarae i Gymru a chyda thîm rygbi merched Cymru o dan 20.

Does dim ots ydw i’n canu mewn tiwn ai peidio pan fydda i’n canu o waelod fy nghalon. Pan fyddwn ni’n cyrraedd “Gwlad, Gwlad, pleidiol wyf i’m gwlad”, mae’n teimlo fel pe baech chi’n sefyll dros eich cenedl. Mae’n deimlad gwych, ac mae’n fy ngwneud i’n eithriadol o falch.

Geiriau:

Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi,
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad,
Tros ryddid gollasant eu gwaed.

Cytgan:
Gwlad, Gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad,
Tra môr yn fur i'r bur hoff bau,
O bydded i'r heniaith barhau.

Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd;
Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd
Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si
Ei nentydd, afonydd, i fi.

Cytgan

Os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei droed,
Mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed,
Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad,
Na thelyn berseiniol fy ngwlad.

Cytgan ​

.