Mae dywediad yn Gymraeg, "cenedl heb iaith, cenedl heb galon" - ac mae'r Gymraeg yn dal i fod wrth galon ein diwylliant cenedlaethol.

Mae’n perthyn i holl bobl Cymru, p’un a ydynt yn ei siarad ai peidio; mae’n rhan o’n treftadaeth gyffredin, o’r enwau lleoedd o’n cwmpas i’r Anthem Genedlaethol. Mae’n cael ei siarad gan dros hanner miliwn o bobl, ac yn cael ei deall gan lawer mwy.

Arwydd dwyieithog yn ôl ym Mharc Bute, Caerdydd
Tu allan i arysgrifio dwyieithog sy'n dangos Canolfan Mileniwm Cymru
Arwydd dwyieithog ym Mharc Bute, a'r arysgrif ddwyieithog drawiadol ar flaen Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd

Ychydig flynyddoedd yn ôl, gwnes i gyfres deledu i weld beth fyddai'n digwydd taswn i'n teithio o gwmpas Cymru, yn siarad Cymraeg yn unig. Arbrawf ieithyddol oedd o, ond cefais siom ar yr ochr orau fod pobl yn gwybod mwy o Gymraeg nag oedden nhw’n meddwl hyd yn oed mewn ardaloedd Saesneg eu hiaith yn bennaf – ac yn fodlon ei defnyddio gyda mi, hyd yn oed os mai dim ond ychydig eiriau oedd ganddyn nhw.

Mae bron i 30% o boblogaeth Cymru gyfan yn siarad Cymraeg, ac mewn sawl ardal fe'i clywch yn cael ei defnyddio ochr yn ochr â'r Saesneg ar y strydoedd, yn y siopau ac ar y bysiau. (Mae nifer fawr o Gymry alltud yn Lloegr hefyd – ces i fy magu yn y gymuned Gymreig yn Llundain, lle mae fy nheulu wedi byw ers y 1880au.)

Mae’r Gymraeg bellach yn cael ei defnyddio ochr yn ochr â’r Saesneg ym mhob agwedd o fywyd, ac mae ganddi statws cyfartal yn gyfreithiol.”

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynlluniau i sicrhau bod gan yr iaith filiwn o siaradwyr unwaith eto erbyn 2050. Mae pob plentyn yng Nghymru bellach yn cael y cyfle i ddysgu Cymraeg, ac mae’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg wedi tyfu’n gyson, yn enwedig yng Nghaerdydd a’r de-ddwyrain.

O ganlyniad, mae’r iaith wedi dod yn fwy amrywiol yn ethnig nag erioed o’r blaen, gyda siaradwyr o gefndiroedd Asiaidd ac Affricanaidd yn ogystal ag o rannau eraill o Ewrop. Ond mae'r Gymraeg wedi bod yn iaith gynhwysol erioed. Mae'n cynnwys geiriau benthyg o’r Lladin, Gwyddeleg, Norseg, Ffrangeg Normanaidd, ac wrth gwrs, Saesneg.

Dysgwyr Cymraeg yn eistedd ar fainc yn edrych i'r môr, Nant Gwrtheyrn
Dau o ddysgwyr Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn gyda golygfeydd o'r môr
Dysgwyr Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn gyda’r arfordir yn y cefndir

Mae ei gwreiddiau, fodd bynnag, yn Geltaidd. Llydaweg a Chernyweg yw ei pherthnasau agosaf, ei 'chwaer ieithoedd'. Gwyddeleg, Manaweg a Gaeleg yr Alban yw ei chefndryd cyntaf. Daeth y Gymraeg i'r amlwg am y tro cyntaf rhyw 1,500 o flynyddoedd yn ôl, ac mae'r llenyddiaeth Gymraeg gynharaf yn dyddio'n ôl i'r chweched ganrif - rhyw 800 mlynedd cyn Saesneg Chaucer!

Mae ein hanthem genedlaethol yn tynnu sylw arbennig at 'feirdd a chantorion'. Mae’r traddodiad hwnnw’n parhau hyd heddiw yn yr eisteddfod, dathliad blynyddol o’r iaith a’i diwylliant.

Arwyddbost iaith Gymraeg, Eisteddfod Genedlaethol
Cyfnod yn yr Eisteddfod Genedlaethol
yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru mewn lleoliad gwahanol bob mis Awst a dyma’r ŵyl gelfyddydol fwyaf o’i bath. Mae’n cynnwys cystadlaethau dysgwyr i’r rhai sy’n dal i ymdrechu i feistroli’r iaith. Mae Eisteddfod yr Urdd, a gynhelir bob Mai - Mehefin, wedi ei hanelu at bobl ifanc ac yn denu 40,000 o gystadleuwyr bob blwyddyn. Mae Matthew Rhys, Bryn Terfel, Cerys Matthews, ac Ioan Gruffudd ymhlith y rhai sydd wedi elwa o’u profiadau cynnar yn yr eisteddfod hon.

Fel y mae’r enwau uchod yn ei awgrymu, nid yw defnyddio’r Gymraeg yn rhwystr i lwyddiant y tu hwnt i’r ffin. Ym mis Rhagfyr 2018 Gwenwyn gan Alffa oedd y sengl Gymraeg gyntaf i gael dros filiwn o ffrydiau Spotify, Mwng gan y Super Furry Animals oedd yr albwm Cymraeg cyntaf yn 20 uchaf y DU, a’r ffilmiau Hedd Wyn a Solomon a Gaenor ill dau wedi derbyn enwebiadau Oscar.

sgrin camera mewn ffocws, yn dangos ffilmio mewn stiwdio deledu
Cynhyrchiad mewn stiwdio deledu o gyfres deledu Gymraeg gan Cwmni Da i S4C

Dechreuodd rhaglenni plant fel Sam Tân ar y sianel deledu Gymraeg S4C, ac maent wedi cael eu gwerthu ledled y byd. Yn fwy diweddar, mae’r ddrama dditectif Y Gwyll (Hinterland) wedi gwneud yr un peth. Ond yr un mor arwyddocaol, mae S4C a’i chymar radio BBC Radio Cymru bellach yn darparu ffenestr Gymraeg ar Gymru a’r byd i wylwyr a gwrandawyr gartref, boed gartref yn Llandeilo neu yn Llundain.

Mae’r Gymraeg wastad wedi bod yn barod i gofleidio cyfryngau newydd. Argraffwyd y llyfrau Cymraeg cyntaf nôl yn y 1540au a 100 mlynedd yn ôl cyhoeddwyd 25 o bapurau newydd wythnosol yn yr iaith. Mae’r traddodiad hwnnw’n parhau heddiw, nid yn unig gan Y Cymro a Golwg mewn print, ond hefyd gan wefannau newyddion fel BBC Cymru Fyw a Golwg 360.

Comisiynwyd cerdd Ifor ap Glyn, Blwyddyn y Môr 2018, ar y cyd â Llenyddiaeth Cymru i ddathlu glannau anhygoel Cymru.

Mae’r Gymraeg bellach yn cael ei defnyddio ochr yn ochr â’r Saesneg ym mhob agwedd o fywyd, ac mae ganddi statws cyfartal yn gyfreithiol. A allwn ni gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050? Pam stopio fan yno? Mae’r Gymraeg a’r Saesneg wedi cydfodoli yng Nghymru ers canrifoedd bellach – ac efallai bod ein profiad hir o ddwyieithrwydd yn rhywbeth y gallwn ei rannu’n broffidiol â’r byd wrth inni adennill ein treftadaeth.

Oeddech chi'n gwybod mai Cymraeg yw'r iaith sy'n tyfu gyflymaf yn y DU ar Duolingo? Mae apiau gwych eraill i’w cael hefyd fel Say Something in Welsh. Beth am ddilyn cwrs gyda learnwelsh.cymru, neu gyfuno eich dysgu gyda gwyliau a dilyn cwrs preswyl yng nghanolfan Gymraeg hardd Nant Gwrtheyrn?

Straeon cysylltiedig