Os ydych yn byw y tu allan i’r DU efallai y bydd angen fisa y DU arnoch i ymweld â Chymru. Mae Cymru yn rhan o’r Deyrnas Unedig a’r system fisa a mewnfudo ledled y DU. I gael gwybod mwy ewch i Wefan UK Government Visas and Immigration .
Mae gwybodaeth hefyd ar wefan Teithio rhyngwladol i Gymru ac o Gymru: coronafeirws | LLYW.CYMRU
Ar yr heol
Mae tri phrif gysylltiad traffordd rhwng Cymru a Lloegr. Yr M4 yw'r llwybr prifwythiennol o Lundain i Dde Cymru, yn ymestyn cyn belled â Phont Abraham yn Sir Gaerfyrddin, Gorllewin Cymru. Wrth i chi ddod i mewn i Gymru, byddwch yn teithio dros un o’r ddwy Bont Hafren ysblennydd. Diddymwyd y doll hirsefydlog yr oedd ei hangen i groesi’r bont ar ddiwedd 2018.
Mae’r M50 yn cysylltu Sir Fynwy a Chanolbarth Cymru â’r M5, yn rhedeg o’r gogledd i’r de trwy dde-orllewin Lloegr, gan roi mynediad hawdd i Ganolbarth Lloegr, Gorllewin Lloegr a thu hwnt. Yr M6 a'r M56 yw'r ffyrdd cyflymaf i Ogledd Cymru o Fanceinion a Gogledd Lloegr, gan gysylltu â'r A55 sy'n ymestyn ar draws Gogledd Cymru.
Am fwy o wybodaeth ynghylch teithio o gwmpas y DU ar y ffordd, mae gan Visit Britain - Getting around Britain ganllaw cynhwysfawr.
Ar y môr
Mae gwasanaethau fferi yn gweithredu rhwng arfordir gorllewinol Cymru a Gweriniaeth Iwerddon (Abergwaun neu Benfro i Rosslare, a Chaergybi i Ddulyn). Mae gwasanaethau aml yn golygu ei bod hi’n hawdd cyfuno arhosiad yng Nghymru â thaith gyflym draw i Iwerddon, ac mae’r fferïau cyflymaf yn croesi mewn dwy awr yn unig.
Mae gan Gymru chwe phorthladd sy'n derbyn llongau mordaith, gan gynnig amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau: Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe ym Môr Hafren; Abergwaun ac Aberdaugleddau yng Ngorllewin Cymru; a Chaergybi ar Ynys Môn.
Ar drên
Mae Prif Linell De Cymru yn cysylltu Llundain â Chasnewydd, Caerdydd, Abertawe a chyrchfannau eraill yn Ne a Gorllewin Cymru. Ar drenau uniongyrchol, mae'r daith rhwng Llundain Paddington a Chaerdydd ychydig yn llai na dwy awr.
I'r rhai sy'n teithio i Gymru o dramor, mae Paddington yn daith fer ar Reilffordd Danddaearol Llundain o Orsaf Ryngwladol St Pancras, lle mae gwasanaethau Eurostar o Baris, Brwsel a chyrchfannau eraill ar dir mawr Ewrop yn dod i ben. Gall teithwyr sy'n cyrraedd y DU o feysydd awyr Heathrow, Gatwick, Stansted, Luton neu Ddinasoedd Llundain deithio ar y trên i derfynellau eraill yn Llundain, a throsglwyddo i Paddington ar y Rheilffordd Danddaearol i fynd ar drên i Dde Cymru.
Gorsaf drenau Caerdydd Canolog yw gorsaf brysuraf Cymru. Yn ogystal â gwasanaeth Llundain, mae yna drenau rheolaidd o gyrchfannau gan gynnwys Bryste, Birmingham, Portsmouth, Southampton, Manceinion a'r Amwythig. Mae hefyd yn ganolbwynt i rwydwaith rhanbarthol sy’n gwasanaethu Cymoedd De Cymru. Ers mis Chwefror 2021, mae gwasanaethau trên o fewn Cymru ac o amgylch Gororau Cymru wedi cael eu gweithredu gan Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.
Gellir cyrraedd rhannau eraill o Gymru o Loegr ar eu llwybrau eu hunain. Mae trenau uniongyrchol o Euston Llundain a Manceinion i Landudno, Bangor a Chaergybi; ac o Birmingham, Amwythig a Crewe i arfordir Gogledd Cymru a Phen Llŷn.
Mae Ymholiadau National Rail yn ffynhonnell gwybodaeth ar gyfer holl wasanaethau rheilffyrdd teithwyr yn y DU.
Ar awyren
Mae Maes Awyr Caerdydd wedi'i leoli ychydig y tu allan i'n prifddinas, ac mae cysylltiadau bws a rheilffordd rheolaidd i ganol y ddinas a rhannau eraill o Dde Cymru. Mae tua 80 munud yn yr awyr yn mynd â chi i ganolfannau Ewropeaidd fel Amsterdam a Pharis, ac mae yna wasanaethau domestig aml i gyrchfannau gan gynnwys Newcastle, Caeredin, Glasgow, Aberdeen a Belfast.
Er mai Caerdydd yw maes awyr mwyaf Cymru o bell ffordd, mae’n hawdd cyrraedd y wlad o feysydd awyr cyfagos yn Lloegr. Mae Maes Awyr John Lennon Lerpwl a Maes Awyr Manceinion ill dau mewn lleoliad da ar gyfer Gogledd Cymru (dim ond tua 40 milltir neu 60km o Wrecsam yw Lerpwl).
Mae Maes Awyr Birmingham tua awr a hanner o'r Trallwng neu Drefynwy, ar gyfer Canolbarth Cymru a De-ddwyrain Cymru yn y drefn honno. Mae Maes Awyr Bryste tua 90 munud i ffwrdd o Gaerdydd ar y ffordd, ac mae'n cael ei wasanaethu gan wasanaethau bysiau uniongyrchol o Gaerdydd. Mae Maes Awyr Heathrow Llundain o fewn cyrraedd traffordd yr M4 a gwasanaethau rheilffordd cyflym i Dde Cymru trwy Paddington neu Reading.
Dolenni cysylltiedig:
- Croeso Cymru: Chwilio am lefydd i aros, pethau i'w gwneud, a phethau i'w gweld yng Nghymru
- The Wales Way: Archwilio tri llwybr teithiol trwy galon Cymru
- Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru: Teithio ar drên yng Nghymru
- Traveline Cymru: Cynllunio taith ar drafnidiaeth gyhoeddus