Mae fy atgofion cynharaf yn rhai o Gymru

Roedd fy mam yn dod o ogledd Cymru a’m tad yn dod o’r de, a chefais i fy ngeni ym Merthyr. Pan oeddwn i’n bump oed, fe symudodd y teulu i Dyddewi. Rydw i’n cofio’r tro cyntaf imi weld arfordir Sir Benfro; roedden ni wedi bod yn teithio am oriau ar fws mawr coch. Mwyaf sydyn, aeth y bws dros dop y rhiw a gallwn i weld traeth Niwgwl, ac am y tro cyntaf yn fy mywyd fe welais i’r môr.

Golygfa o ben bryn o’r traeth a’r arfordir â charafanau a phebyll mewn cae
Niwgwl, Sir Benfro, De-orllewin Cymru

Rydw i’n credu bod Tyddewi yn berffaith

Cawsom ni ein magu yn Nhyddewi ac rydw i’n meddwl ei fod yn lle arbennig o hyfryd. Nid yw’r penrhyn ond un milltir o led a chwe milltir o hyd, ac iddo awyr sy’n newid yn barhaus a nifer o draethau sydd wedi ennill gwobrau. Mae’r microhinsawdd yn anhygoel; pan mae hi’n glawio ar draws Prydain, nid yw Tyddewi’n gweld y glaw bob tro. Pan oeddwn i’n blentyn, byddwn i’n beicio o amgylch y penrhyn, yn ymweld â thraethau ac yn chwarae yn y dyffryn nesaf at y gadeirlan. Roedd yn berffaith.

Golygfa o ddinas wedi ei hamgylchynu gan gaeau gwyrddion
Dyn yn edrych tuag at y môr o’r traeth
Tyddewi a Phorth Mawr, Sir Benfro

Cefais fy ysbrydoli i fod yn bensaer gan adeiladau hanesyddol Cymru

Roedd fy rhieni yn mynd â ni i weld nifer o gadeirlannau a chestyll ym Mhrydain. Roeddwn i’n gwybod mwy na’r rhan fwyaf o oedolion am bensaernïaeth yr oesoedd canol pan oeddwn i’n 13 oed. Aeth fy mrawd i fod yn hanesydd a minnau i fod yn artist. Mae i Eglwys Gadeiriol a Phalas yr Esgob yn Nhyddewi deimlad anhygoel o ofod a chyfaint. Fe wnaethon nhw argraff fawr arnaf i.

Golygfa o hen adfeilion â’r haul yn disgleirio drwyddynt
Eglwys Gadeiriol wedi ei hamgylchynu gan goed gwyrdd ac awyr las
Hen adfeilion â ffenestr gron a phorth
Eglwys Gadeiriol Tyddewi a Phalas yr Esgob, Tyddewi, Sir Benfro

Gweithiais i yn Asia gyda dihareb Gymreig yn canu’n y cof

Rydw i wedi treulio 35 o flynyddoedd yn Asia ar hyd fy ngyrfa. Symudais i Hong Kong yn 1982, sefydlu’r cwmni yn 1985 ac adeiladu yn Hong Kong tan 1995. Aethon ni wedyn i adeiladu yn Ne-ddwyrain Asia tan 2004. China oedd y lle nesaf oedd wrthi’n cael ei ddatblygu, felly rydym ni wedi bod yn canolbwyntio ein hymdrechion yno ers dros 15 mlynedd.

Mae yna ddywediad o’r Mabinogi sydd wedi aros gyda mi: ‘A fo ben bid bont’. Mae’n golygu os ydych chi eisiau arwain, mae angen ichi ddangos y ffordd, ac mae angen ichi fod y bont. Fel penseiri, dylem ni fod yn ddylunwyr – dyna sut rydym ni’n newid y byd er gwell gydag arweiniad cadarn.

Mae'r pensaer o Gymru, Keith Griffiths, yn rhannu ei atgofion o dyfu i fyny yng Nghymru a'i yrfa yn Asia.

Does neb yn ddylanwad mawr arnaf i, ni yw’r rhai dylanwadol

Fy nghyngor i benseiri’r dyfodol yw i arlunio a dylunio. Dyna sut rydw i’n arwain; os ydw i wastad yn arlunio, gall pobl ddilyn. Y cyfnod pensaernïol sy’n fy nenu i fwyaf ydi’r dyfodol, a bob tro rydw i’n gorffen adeilad, mae’n dod yn uchafbwynt newydd yn fy ngyrfa.

Rydw i eisiau i’m plant wybod am eu gwreiddiau Cymreig

Cyn 2009, doeddwn i heb fod yn ôl i Gymru ers rhyw 20 mlynedd. Fe sylwais i pan oedd fy mechgyn i’n chwech ac yn naw oed nad oedd ganddyn nhw wreiddiau. Mae Hong Kong yn dysgu pobl i fod yn bobl y byd yn hytrach na phobl o Hong Kong. Felly roedd yn naturiol i mi ddod â nhw i Gymru ar wyliau, ble mae gen i wreiddiau dyfnion. Mae beth rydw i’n ei fwynhau am Dyddewi heddiw yr un fath â beth oeddwn i’n ei fwynhau yn blentyn, a’r un fath â beth mae’r bechgyn yn ei fwynhau: y traethau, y tirlun, diwylliant, pobl, adeiladau a’r tywydd.

Dyn yn eistedd ac yn gwisgo trowsus a chrys du yn erbyn cefndir gwyn
Keith Griffiths

Dod â gwestai moethus i Sir Benfro

Gan fod fy mrodyr a’m chwiorydd yn ymddeol, fy rhieni yn mynd yn hŷn a chan fod fy mhlant yn mwynhau Tyddewi, fe brynais i eiddo yma: Priordy Pen-rhiw. Fe droesom ni’r priordy yn dŷ wyth ystafell wely i’r teulu. Yn ddiweddarach, fe wnaethon ni ei rentu fel na fyddai’n dadfeilio, yna dechrau ei logi fel tŷ gwyliau. Roedd yn rhy fawr i hynny mewn gwirionedd, ac felly fe drodd yn reit sydyn i fod yn westy.

Tra oeddem ni’n gwneud hynny, cefais i gynnig prynu Castell y Garn, oedd yn gynnig rhy dda i’w wrthod. Fe brynon ni ef a’i droi’n westy moethus chwech ystafell. Gyda’i gilydd, roedd gennym ni 14 ystafell – dim digon i fod yn gynaliadwy yn ariannol fel gwestai. Fodd bynnag, roedd gen i hen ffrindiau ysgol yn Nhyddewi. Roedd un ohonynt yn berchen ar hen westy Twr y Felin ac un arall yn berchen ar y cae o flaen y gwesty. Rhoddais i alwad iddyn nhw, a phrynu’r ddau i’w troi yn un gwesty moethus.

Golygfa o westy Twr y Felin o’r buarth blaen
Golygfa o’r castell wedi ei amgylchynu gan gaeau gwyrddion
Gwesty Twr y Felin a Chastell y Garn, Tyddewi

Mae adnewyddu hen adeiladau wastad yn her

Yr her gyntaf inni ei hwynebu yma oedd cael caniatâd cynllunio. Mae wastad yn anodd, yn enwedig mewn Parc Cenedlaethol! Roedd angen y caniatâd arnom ni gan ein bod ni eisiau gwneud gwaith adnewyddu oedd yn addasu adeiladau oedd yn bodoli eisoes, gan roi bywyd newydd iddyn nhw er mwyn iddyn nhw gael eu defnyddio am flynyddoedd i ddod.

Yr her nesaf oedd canfod tîm. Ar gyfer yr arlunio a’r dylunio, fe ddaethom ni o hyd i arbenigwyr oedd yn gweithio gydag adeiladau hanesyddol yn unig. Roedd rhaid inni ddod o hyd i dîm i adnewyddu castell o’r 12fed ganrif, melin wynt o’r 18fed ganrif a ficerdy o’r 19eg ganrif – seiri maen, seiri pren, gofaint metel – a phobl allai redeg yr adeiladau ar ôl i’r gwaith orffen.

Gobeithio y bydd y gwestai hyn yn bywiogi Sir Benfro am flynyddoedd

Sefydlais i’r Griffiths-Roch Foundation, sefydliad fydd yn berchen ac yn rhedeg yr adeiladau ar gyfer y dyfodol. Fy nheulu yw’r buddiolwyr, ond yn gyntaf mae’r sefydliad yn defnyddio’r elw i adnewyddu a chynnal yr adeiladau. Mae’n anrheg i ogledd Sir Benfro, ac yn weledigaeth gen i i ddenu twristiaid cefnog i’r ardal. Gallwn ddefnyddio celf, adeiladau moethus a hanesion i ddod â phobl o bob cwr o’r byd i fwynhau hanes, iaith a diwylliant cyfoethog Tyddewi.

Lle bwyta mewn gwesty â gwaith celf wedi’u arddangos ar y waliau
Lle bwyta mewn gwesty â gwaith celf ar y waliau
Darn o waith celf ar y wal
Gwaith celf, Gwesty Twr y Felin, Tyddewi

Straeon cysylltiedig