Agorodd Coleg Iwerydd UWC ym 1962 gan agor y ffordd ar gyfer mudiad heddwch byd-eang wedi’i hybu gan bobl ifanc. Yn fuan fe ehangodd Colegau Unedig y Byd i fod yn rhwydwaith byd-eang o 18 o ysgolion a cholegau, gan gynnwys UWC-UDA yn New Mexico, a agorodd ym 1982.

Gyda 90 o genhedloedd o dan yr un to yn Sain Dunwyd, a dros 20 o’r 353 o fyfyrwyr yn hanu o’r Unol Daleithiau, mae’n lle cyffrous i fod.

‘Yn y bôn, mae’n cynnwys y byd i gyd mewn un castell, yng nghanol cefn gwlad Cymru!’

Dyna sut mae Bella Pincus, 16 oed, yn disgrifio ei hysgol. Tyfodd Bella i fyny ym Manhattan yn Ninas Efrog Newydd, felly pan awgrymodd ei thaid Coleg Iwerydd UWC fel y lle i gwblhau ei hastudiaethau, nid oedd yn siŵr ar y dechrau.

‘Roeddwn i’n meddwl y byddai’n well gen i fod mewn dinas fawr, oherwydd dyna beth rydw i wedi arfer ag ef. Ond rydw i wedi newid fy meddwl yn bendant oherwydd mae yna gymuned fyd-eang gyfan yma ac mae cymaint o wahanol bobl y gallwch chi gwrdd â nhw. Felly mewn ffordd mae'n debyg i ddinas Efrog Newydd oherwydd ei hamrywiaeth', meddai Bella.

A group of international students
Grŵp o fyfyrwyr rhyngwladol
Myfyrwyr yng Ngholeg Iwerydd, Bro Morgannwg

Er na ellir cymharu’r bryniau tonnog a’r arfordir garw o amgylch San Dunwyd â nendyrau Efrog Newydd, mae’r amrywiaeth mae Bella yn ei theimlo o fewn muriau Coleg Iwerydd yn un real a bwriadol, yn ôl pennaeth y coleg:

'Ein gobaith yw, os gall myfyrwyr o bob rhan o'r byd ddysgu sut i fyw gyda'i gilydd, y byddan nhw’n dysgu bod ein tebygrwydd yn fwy o lawer na'r hyn sy'n ein rhannu ni yn y byd, a thrwy hynny ddod â mwy o heddwch yn y byd,' meddai Naheed Bardai.

Bwrdd a chadeiriau ar lawr carreg drws nesaf i le tân.
Ystafell gyda lloriau a muriau carreg.
Tu mewn i Goleg Iwerydd, Bro Morgannwg

Yn Goleg Unedig y Byd, y cyntaf o'i fath, sefydlwyd Coleg Iwerydd gan yr addysgwr gweledigaethol Kurt Hahn. Roedd Hahn yn Iddew a alltudiwyd o'r Almaen, ei wlad enedigol, ar ôl siarad yn agored yn erbyn y Natsïaid. Rhoddodd dinistr y Rhyfeloedd Byd gred iddo yn yr angen i weithio y tu hwnt i wrthdaro, a photensial addysg fel grym er daioni.

Yn anterth y Rhyfel Oer, bu’n cydweithio â gwledydd a oedd yng nghynghrair NATO i ddod â’u hieuenctid at ei gilydd yn Sain Dunwyd. Yr Arglwydd Mountbatten - efallai y byddwch chi'n ei gofio o The Crown fel ffigwr tadol i'r Tywysog Phillip ac yn glust i'r Frenhines Elizabeth II - oedd llywydd sefydlu'r coleg. Dechreuodd y mudiad yng Nghymru ac fe ehangodd yn fuan i wledydd eraill ar draws y byd, gyda 18 o golegau mewn gwledydd gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Canada, De Affrica, yr Iseldiroedd, Tsieina a Gwlad Thai. Heddiw, mae'r ysgol breswyl yn gartref i fyfyrwyr o 90 o genhedloedd a diolch i gefnogaeth ariannol trwy nawdd ac ysgoloriaethau, mae'n addysgu ffoaduriaid yn ogystal â myfyrwyr brenhinol.

Mae'r coleg gyda sawl aelod o deuluoedd brenhinol yn gyn-fyfyrwyr, gan gynnwys Willem-Alexander, Brenin yr Iseldiroedd. Ond dyma hefyd lle cafodd “y Malalas Eraill”, Shazia Ramzan a Kainat Riaz eu haddysgu; y merched ysgol o Bacistan a oedd gyda’u ffrind Malala Yousafzai pan gafodd ei saethu.

‘Rwy’n meddwl ei fod yn un o’r llefydd mwyaf unigryw yn y byd. Mae’n ddwy flynedd gyda phobl o bob rhan o’r byd sy’n frwd dros fod eisiau gwneud newid’, meddai Carmen Henick, 16 oed o Virginia yn yr Unol Daleithiau.

Myfyriwr mewn top du a jîns glas yn sefyll o flaen bwrdd y tu mewn i’r coleg.
Dyn yn sefyll y tu blaen i’r coleg.
Carmen Henick o Virginia yn yr Unol Daleithiau a Phennaeth Coleg Iwerydd, Naheed Bardai.

Dywed y Pennaeth Naheed Bardai fod y coleg wedi dod yn esiampl ar gyfer addysg ryngwladol a bod ei agwedd allblyg yn golygu bod ei gyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i fod yn wleidyddion, gofodwyr, actifyddion, dyngarwyr, artistiaid ac yn swyddogion gweithredol blaengar.

Ymhlith ei gyflawniadau mwyaf mae helpu i gyd-greu a pharhau i lunio rhaglen y Fagloriaeth Ryngwladol sydd bellach yn cael ei haddysgu ledled y byd. Bu myfyrwyr y coleg hefyd yn manteisio ar ei leoliad arfordirol i ddatblygu’r bad achub RIB, gan ddal llygad elusen achub yr RNLI, y gwerthodd y patent iddi am £1 yn y 1970au.

Ond mae Naheed yn dweud bod y coleg hefyd yn esiampl i Gymru ac yn rhoi pwyslais mawr ar helpu ei gymuned leol. Mae’r fyfyrwraig Bella yn cyfarfod yn rheolaidd â rhai o drigolion oedrannus Llanilltud Fawr gerllaw, tra bod y coleg hefyd wedi bod yn cefnogi ffoaduriaid o Wcráin sydd wedi ymgartrefu’n ddiweddar mewn trefi cyfagos.

Mae ymgysylltu â chymunedau lleol yn golygu bod llawer o fyfyrwyr wedi dod i ystyried Cymru fel cartref, cymaint felly fel bod gan dîm pêl-droed Cymru rai cefnogwyr newydd yng Nghwpan y Byd:

‘Dw i’n meddwl efallai fy mod am gefnogi Cymru a’r Unol Daleithiau. Dydw i ddim eisiau rhoi fy wyau i gyd mewn un fasged ac fel hyn mae gen i ddau gyfle i ennill!’, meddai’r myfyriwr Carmen.

‘Dw i’n lwcus bod gen i ddau dîm gwahanol mewn coch’, meddai’r pennaeth Naheed Bardai, ‘Cymru a Chanada, ble cefais fy ngeni a’m magu. Felly rwy’n edrych ymlaen at gefnogi dau dîm sydd ddim yn ffefrynnau i ennill!’

Mur castell drws nesaf i lwyn gyda blodau a lawnt werdd.
Mur castell drws nesaf i lwyn gyda blodau a lawnt werdd.
Coleg Iwerydd, Bro Morgannwg
Tiroedd y coleg a’r ganolfan celfyddydau gwydr.
Canolfan y Celfyddydau yng Ngholeg Iwerydd, Bro Morgannwg

Straeon cysylltiedig