Dim ond drwy gerdded ar draws y cwrs golff neu drwy ddod i mewn ar gwch y cyrhaeddwch chi gilgant euraid traeth Porthdinllaen. Mae’r dafarn wedi bod yn gweini peintiau ac yn cynnig croeso cynnes ers 1842 – ac mae’n symbol addas iawn o wlad ble gall pob pant yn y ffordd a chilfan ar hyd yr arfordir ddatgelu cyfrinach newydd.

Pâr eistedd yfed ar wal yn edrych i'r môr y tu allan i'r Tŷ Coch Inn ym Mhorthdinllaen
Dyn yn edrych allan i'r môr o graig yn Tŷ Coch Inn, Gogledd Cymru
Tafarn Tŷ Coch Inn, Penrhyn Llŷn.

Does dim prinder o leoedd ble cewch eich ysbrydoli i godi gwydraid i’ch amgylchfyd yng Nghymru, o draethau fel darlun sy’n denu mwy o forloi na phobl (meddyliwch am Gwmtudu, ger Ceinewydd) i adfeilion cestyll fry ar greigleoedd. Mae yma ddigonedd o drefi bywiog, â’u marchnadoedd prysur, a dinasoedd ble mae’n hawdd colli gafael ar amser wrth i chi grwydro’r amgueddfeydd, yr orielau a’r siopau unigryw.

Grŵp o ffrindiau yn cerdded drwy arcedau Fictoraidd Caerdydd
Arcêds siopa Fictorianaidd, Caerdydd.

Ansicr ble i ddechrau? Mae Ffordd Cymru’n cynnwys tri llwybr gyrru sy’n arddangos y gorau am Gymru. Dewiswch Ffordd y Gogledd os ydych chi eisiau profiad yn llawn bwyd a blas. Gwibiwch heibio i winllannoedd, bragdai bychan, bwytai seren Michelin a bistros glan-môr wrth i chi ymlwybro ar hyd ffordd fasnachu hynafol i gyfeiriad Ynys Môn. Ar ben eich taith, gallwch wledda ar gregyn gleision, cimwch ffres o’r môr a bara poeth o’r popty.

Mae Ffordd yr Arfordir yn llwybr syfrdanol o hardd sy’n crwydro heibio i drefi glan-môr a thraethau dirgel Bae Ceredigion. Cewch ddigon i danio’r dychymyg yma, o gestyll deniadol Cricieth a Harlech i’r trenau stêm bach sy’n pwffian ar hyd Rheilffordd Cwm Rheidol.

Does dim angen gwneud y cyfan ar unwaith."

Llun o Fae Three clogwyni wedi ei gymryd o dwyni yn edrych allan ar y tri chlogwyni a'r môr
Golygfa Portmeirion
Bae'r Tair Chlogwyn, Penrhyn Gŵyr a Portmeirion

Mae’r llwybr gyrru olaf, Ffordd Cambria, yn mynd fel cyllell drwy fenyn drwy galon Cymru o Gaerdydd i Landudno, gan gyflwyno arlwy sy’n cynnwys fforestydd dudew, llynnoedd eang a’r cyfle i ymweld â threfi marchnad tlws fel y Fenni a Chrughywel. Dyma’r daith berffaith ar gyfer unrhyw un sydd am lenwi’i ysgyfaint ag awyr iach. Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Eryri yw dau o feysydd chwarae antur gorau byd natur, gyda digonedd o gyfle i gerdded, seiclo a marchogaeth, waeth pa mor ffit neu uchelgeisiol – neu beidio – ydych chi.

Does dim angen gwneud y cyfan ar unwaith. Hyd yn oed mewn penwythnos, gallech anelu am Benrhyn Gŵyr – bys o arfordir mor hardd mai dyma’r ardal gyntaf ym Mhrydain i’w phennu’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Brin bum milltir o'r ddinas, mae’n hawdd cyrraedd yno o ganol Abertawe. Ond cofiwch bicio i weld Man Geni a Chartref Teuluol Dylan Thomas yn 5 Cwmdonkin Drive, Abertawe, yn ardal yr Uplands o’r ddinas cyn ei gadael. Yn y tŷ cyffredin hwn y treuliodd y bardd ei blentyndod ac mae’n cynnig cipolwg diddorol i ni ar fywyd Cymru yn yr oes Edwardaidd.

Golygfa o'r awyr o Red Aston Martin yn gyrru drwy Great Orme, Gogledd Cymru
Golygfa o'r awyr o ben y mwydyn yn y llanw isel ger Rhossili
Golygfa o'r awyr o ffordd trwy'r Fenni
Y Gogarth, ger Llandudno; Pen Pyrod, Penrhyn Gŵyr; golygfa o'r awyr ger Y Fenni.

Mae treulio penwythnos ym mhrifddinas ieuengaf Ewrop, Caerdydd, hefyd yn werth chweil bob amser. Gadawyd ôl pob oes ar y ddinas, o waith cerrig y Rhufeiniaid, sy’n dal yn amlwg yn waliau Castell Caerdydd, i’r arcêds Fictoraidd gyda’u lliaws siopau a chaffis annibynnol. Ochr yn ochr â’r hynafiaethau hyn mae nodweddion mawr cyfoes fel Stadiwm Principality, fel llong ofod wen ynghanol y ddinas. Mae Bae Caerdydd yn llawn o bensaernïaeth newydd, nodedig, gan gynnwys adeilad y Senedd (cartref Llywodraeth Cymru) a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Mae’r dewis yr un mor eang wrth i chi geisio penderfynu ble i orffwyso dros nos. Sba pum seren neu wely a brecwast clyd ar lan y môr? Gwyliau fferm, pentref gwyliau neu wersylla? A fyddai’n well gennych ddeffro dan ganfas iyrt, ac arogleuon marwydos y tân ar yr awel, ynteu glywed tonnau bach Camlas Mynwy ac Aberhonddu’n llepian ar hyd ochr eich cwch?

Adeilad y Pierhead a Chanolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd. Llun wedi'i gymryd o ochr y morglawdd o dan Moody Skies.
Bae Caerdydd.

Gall y gwir anturiaethwr dreulio noson yn llythrennol uwchlaw’r tonnau, mewn ‘portaledge’, math o babell sy’n hongian wrth raffau ar glogwyn, a ddyfeisiwyd gan ddringwyr ar gyfer gorffwys ar ddringfeydd hir. Ond nid un ffordd sydd o brofi Cymru. Mae digon o brofiadau newydd i bara bywyd - ac fe gewch chi fod yn awdur eich epig eich hun.

Y tu allan i yurt
tu mewn yurt
Llety yn Fforest, Aberteifi.

Straeon cysylltiedig

Syrffwyr a van, Rest Bay

Cwestiwn o gydbwysedd

Mae taith i’r gwaith gyda golygfeydd, syrffio ar ôl gwaith a gwyliau penwythnos yn ei gwneud hi'n bosibl dod o hyd i'r cydbwysedd perffaith rhwng bywyd a gwaith yng Nghymru.

Pynciau: