O Gregyn Gleision Bangor, ble mae pysgotwyr yn casglu'r bwyd môr gorau o ddŵr y Fenai, i weithwyr hynod sgilgar Ffatri Injans Toyota ar Lannau Dyfrdwy, ble mae cynhyrchir 1,300 injan bob dydd, mae pobl dda’n gwneud gwaith da yng Nghymru.

Does dim prinder o ran uchelgais. Ystyriwch Marine Power Systems – cwmni o Abertawe sy’n creu Systemau Pŵer Morol. Maen nhw wrthi’n datblygu’r WaveSub, dyfais sy’n gallu troi symudiad y tonnau’n ynni glân, fforddiadwy.

“Yn y dyfodol, pan fydd pobl yn holi pwy yw’r cwmnïau mwyaf yng Nghymru, rydym ni eisiau bod yn eu plith,” meddau cyd-sylfaenydd y cwmni, Dr Gareth Stockman. “Rydym ni eisiau darparu miloedd o swyddi sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer dyfodol carbon isel. Rydym ni’n grediniol fod hyn yn hollol bosib.”

Dr Gareth Stockman CEO Marine Power Systems
Dyfais Ynni Tonnau Wavesub Marine Power Systems Ynni Morol
Prif Weithredwr Marine Power Systems Dr Gareth Stockman a dyfais Wavesub

Mae gan Gymru dreftadaeth ddiwydiannol falch, a seiliwyd ar lo, gweithgynhyrchu a diwydiant trwm. Yn ystod y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, Abertawe oedd prifddinas copr y byd, ac ar ei anterth roedd 90 y cant o allu smeltio copr Prydain yn digwydd o fewn 20 milltir o “Copperopolis”, fel y llysenwyd y dref. Gerllaw, yr enw am Lanelli oedd “Tinopolis” am resymau tebyg – ffaith a gofir hyd heddiw gan y sosbenni alcam sy’n dal i goroni pyst rygbi maes enwog y dref, Parc y Scarlets.

Adenydd awyrennau British Airways Airbus British Airways Maintenance Caerdydd yn cael ei wneud
cynhyrchu peiriant awyren British Airways Airbus cynnal a chadw awyrennau Cardiff BAMC Maes awyr Caerdydd
Airbus

Mae’r ymdeimlad o arloesi a yrrodd dwf diwydiannol Cymru’n dal mor fyw ag erioed. Mae allforion ar gynnydd: £16.6 biliwn yn ystod y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2018, cynnydd o £700 miliwn ar y flwyddyn flaenorol. Mae cyfraddau cyflogaeth yn 74.2 y cant ar hyn o bryd – 1.6 pwynt canrannol i fyny ers blwyddyn. Daeth cwmnïau rhyngwladol fel Airbus, Sony a General Dynamics i ddibynnu ar ein gweithlu dawnus, a dderbyniodd yr hyfforddiant gorau.

Bu denu a datblygu’r doniau hyn yn flaenoriaeth i Gallagher – cwmni yswiriant, rheoli risg ac ymgynghori sy’n gweithredu mewn 33 o wledydd. Denodd ei swyddfa yn Llantrisant glod (a gwobrau’r diwydiant) ar gyfer ei raglenni addysg a phrentisiaeth, gyda chymorth grant sylweddol gan y llywodraeth.

Mae gennym ni bwll rhagorol o dalent ar garreg y drws'

“Mae gennym ni bwll rhagorol o dalent ar garreg y drws,: meddai’r cyfarwyddwr rhanbarthol Mike Jones. “Diolch i gymorth gan Lywodraeth Cymru, gallwn ddenu gweithlu cydwybodol sy’n meddu ar agwedd egwyddorol iawn at waith, sy’n nodweddiadol o Gymru, ac sy’n cyd-fynd yn llwyr â’n gwerthoedd ni.”

Mae gan Gymru isadeiledd drafnidiaeth dda, sy’n gwella. Cyfrifoldeb Trafnidiaeth Cymru yw mynd â phobl o A i B, ac mae’r corff wrthi’n gweithredu cynlluniau uchelgeisiol i adfywio’r rhwydwaith reilffyrdd. Erbyn 2023 bydd modd prynu tocynnau clyfar, mynd ar hyd llinellau newydd a manteisio ar gynnydd 29% mewn gwasanaethau yn ystod yr wythnos waith.

Dyn yn eistedd wrth ddesg, Arthur J. Gallagher Rheoli Risg Yswiriant Swyddfa ac Ymgynghori
Swyddfa Gallagher

Mae Llywodraeth Cymru’n rhagweithiol wrth gefnogi menter ar draws pob sector. Seilir y Cynllun Gweithredu Economaidd ar yr egwyddor y dylai buddsoddi cyhoeddus gael pwrpas cymdeithasol – nid dim ond symbylu twf a chynhyrchiant, ond creu Cymru decach a mwy cystadleuol ar gyfer busnes.

Mae bod yn wlad fach yn gallu bod yn fanteisiol hefyd. Mae hi’n haws cael mynediad i’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau mewn llywodraeth, a gellir gwneud penderfyniad yn gyflym. Mae mentrau fel y Ganolfan Gwyddorau Bywyd ym Mae Caerdydd yn helpu i ddod â’r bobl gywir ynghyd mewn un lle, er budd y sector gyfan.

Therapi Paladr Ffoton, Proton Partners, Casnewydd, De Cymru
Therapi Paladr Ffoton, Proton Partners, Casnewydd, De Cymru
Therapi Paladr Ffoton, Proton Partners, Casnewydd, De Cymru
Proton Partners, Casnewydd - Therapi Pelydr Proton.

“Roedd yn agoriad llygad go iawn i mi,” meddai Mike Moran, Prif Weithredwr Proton Partners a leolir yng Nghasnewydd - cwmni sy’n darparu gofal cancr arloesol. “Fe es i i’r ganolfan a ches fy rhyfeddu gan faint o sgyrsiau sy’n digwydd o gwmpas y peiriant coffi neu hyd yn oed rhwng y desgiau. Mae’r ffaith fod Llywodraeth Cymru’n mynd yno, yn gweithredu oddi yno, ac yn agored i sgyrsiau, yn tanlinellu’r cyfle hwnnw i gydweithio.”

Llun o gadeiriau yn y Senedd, Bae Caerdydd
Senedd, Bae Caerdydd

Mae cynaliadwyedd wrth wraidd yr holl arloesi hyn, hyd yn oed i’r graddau ei fod wedi’i gorffori yn y ddeddf. Cymru oedd y Genedl Fasnach Deg drwyddedig gyntaf, a hefyd y gyntaf yn y byd i basio deddfwriaeth sy’n cydnabod Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.

Mae’n gosod Cymru fel cenedl sy’n barod i wynebu heriau’r 21ain ganrif – ac sy’n barod i weithio gyda phob busnes i greu dyfodol economaidd teg, cynhwysol a chynaliadwy.

Straeon cysylltiedig

Syrffwyr a van, Rest Bay

Cwestiwn o gydbwysedd

Mae taith i’r gwaith gyda golygfeydd, syrffio ar ôl gwaith a gwyliau penwythnos yn ei gwneud hi'n bosibl dod o hyd i'r cydbwysedd perffaith rhwng bywyd a gwaith yng Nghymru.

Pynciau: