Gwanwyn.

Mae Cymru yn lle gwych i brofi'r gwanwyn. Mae'n dymor sy'n llawn lliwiau llachar, wrth i'r coed flaguro a’r blodau gwyllt flodeuo. Ymhlith y rhai cynharaf i gyrraedd mae’r cennin Pedr gwyllt, mewn pryd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi ar y cyntaf o Fawrth. Mae un o'r arddangosfeydd gorau i'w weld yng Nghoed y Bwl, ger Pen-y-bont ar Ogwr, yn garped o aur golau ar lawr y coetir.

Cennin Pedr a Campanile ym Mhenrhyn Llyn gwanwyn, Portmeirion
Cennin Pedr a Campanile yn y gwanwyn, Portmeirion, Penrhyn Llŷn

Ym mis Ebrill, glas yw’r thema. Mae mynd am dro mewn coedwig clychau’r gog yn brofiad synhwyraidd sydd ar ei orau yn y bore bach, pan fo’r gwlith yn codi a’r aer yn llawn arogl miloedd o’r blodau bychain. Mae’n annhebygol y cewch eich siomi gan Goed y Wenallt, darn 44 hectar o goetir hynafol ger Caerdydd, neu warchodfa Coed Aber Artro Coed Cadw ger Harlech yng ngogledd-orllewin Cymru.

Clychau'r gog yn coed ger Melin Tregwynt
Clychau’r gog mewn coedwig ger Melin wlân Tregwynt, Sir Benfro

Mae hefyd ffrwydrad o goch, wrth i gefnogwyr wisgo’r lliwiau chwaraeon cenedlaethol ar gyfer gemau rygbi Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Stadiwm Principality. Ac o floeddio i ddarllen, y gwanwyn hefyd yw pryd y cynhelir Gŵyl y Gelli, sy’n dod ag awduron, meddylwyr a llenorion o fri o bob cwr o'r byd i'r "dref lyfrau" ar y gororau.

Mae rhaeadrau Cymru yn creu argraff ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond maen nhw ar eu gorau yn gynnar yn y gwanwyn.”

Raeadr Pistyll
Raeadr Pistyll
Pistyll Rhaeadr, Croesoswallt, gogledd Cymru

Mae rhaeadrau Cymru yn creu argraff ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond maen nhw ar eu gorau yn gynnar yn y gwanwyn. Maent wedi cael eu bwydo'n dda gan law'r gaeaf, sy’n sicrhau rhaeadru da, ond mae'r coed o'u cwmpas yn ddi-ddail, sy’n creu'r golau perffaith ar gyfer ffotograffiaeth. Ewch draw i Bistyll Rhaedr ym Mynyddoedd y Berwyn ym Mhowys, brenin rhaeadrau Cymru ac un o’r talaf ym Mhrydain gyfan, sef 73m (240tr) – neu Rhaeadr Henrhyd ym Mannau Brycheiniog, a ddefnyddiwyd ar gyfer mynedfa’r Batcave yn The Dark Knight Rises.

Haf.

Efallai mai mynd i’r traeth yw’r demtasiwn – ac mewn gwirionedd, does dim prinder o rai anhygoel – ond mae mwy i’r haf na thywod a syrffio. Mae Cymru’n adnabyddus am harddwch ei chefn gwlad gwyrdd, ac mae’n bleser crwydro trwy erddi ffurfiol fel Dyffryn ym Mro Morgannwg neu Bodnant, yn nyffryn Conwy, gogledd Cymru, lle gallwch weld (ac arogli) rhywogaethau egsotig ochr yn ochr â’n planhigion brodorol.

Gwrychoedd a blodau, gerddi Bodnant
Adeilad, gerddi Bodnant
Gerddi Bodnant
Gardd Bodnant, Gogledd Cymru

Mae dechrau'r haf yn dod â mewnlifiad o adar môr i'r arfordir i fagu eu cywion, gan droi pennau clogwyni yn ddinasoedd adar. Dewis da yw Ynys Lawd, man mwyaf gorllewinol Ynys Môn, lle mae’n gyffredin iawn gweld llurs a phalod. Os ydych chi’n lwcus, efallai y byddwch hefyd yn gweld fflach o hebog tramor.

pâl ar Ynys Sgomer.
Pâl ar lystyfiant, Ynys Sgomer

Yr haf hefyd yw'r amser mwyaf tebygol i weld dolffiniaid, llamhidyddion a morfilod. Mae Bae Ceredigion yn gartref i un o ddim ond ddau lwyth o ddolffiniaid trwyn potel yn nyfroedd arfordirol Prydain, ac mae Cei Newydd yng Ngheredigion yn fan ffafriol nodedig. Gallwch fynd ag ysbienddrych a sganio'r môr o wal yr harbwr am esgyll sy'n torri'r wyneb - neu fynd ar daith cwch i gael cyfle i ddod i gysylltiad agosach.

merch ifanc gyda defaid, Sioe Frenhinol Cymru
Dyn torri coed, Sioe Frenhinol Cymru
Sioe Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt, canolbarth Cymru

Mae'r calendr diwylliannol yn orlawn yn ystod misoedd yr haf. Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, gogledd-ddwyrain Cymru, a'r Eisteddfod Genedlaethol, sy'n cael ei chynnal mewn lleoliad gwahanol bob blwyddyn. Ac mae Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, canolbarth Cymru, yn cynnig diwrnod allan hafaidd ac unigryw. Mae’n un o sioeau amaethyddol mwyaf mawreddog Ewrop, gyda phopeth o gystadlaethau da byw (gan gynnwys y Cobiau Cymreig enwog) i arddangosiadau coedwigaeth, chwaraeon gwledig a stondinau crefft.

Hydref.

Mae’r rhidiad ceirw blynyddol, pan fydd gwallgofrwydd dros dro yn disgyn ar yr haid sydd fel arfer yn dawel, ymhlith golygfeydd bywyd gwyllt mwyaf yr hydref. Ym Mharc Margam, ger Port Talbot, gallwch weld defodau paru swnllyd tair rhywogaeth – ceirw coch, braenar a Père David.

Mae clwstwr o wyliau bwyd yn digwydd o gwmpas amser y cynhaeaf. Yr un sydd wedi ennill ei phlwyf orau yw Gŵyl Fwyd y Fenni, pan fydd mwy na 30,000 o ymwelwyr yn dod ynghyd i’r dref yn y canolbarth ar gyfer rhaglen orlawn o flasu, digwyddiadau gastronomig ac adloniant stryd. Ym mis Medi hefyd cynhelir digwyddiadau bwyd mawr yn yr Wyddgrug, gogledd Cymru ac Arberth yn Sir Benfro.

Stondin cnwd, Gŵyl fwyd y Fenni
Byrgyrs, Gŵyl fwyd y Fenni
Cacennau cri, Gŵyl fwyd y Fenni
Gŵyl Fwyd Y Fenni.

Mae taith gerdded drwy'r goedwig yn rhywbeth y mae'n rhaid ei wneud yn yr hydref. Ble bynnag yr ewch chi yng Nghymru, mae llwybrau coedwig lle gallwch grwydro trwy'r dail sydd wedi cwympo; ond byddai llawer o gerddwyr (a nifer go dda o feirdd rhamantaidd) yn rhoi Dyffryn Gwy yn ei gategori ei hun. Peidiwch â cholli adfeilion Abaty Tyndyrn yn hwyr yn y prynhawn, gyda chefnlen o ffawydd (copr caboledig), derw (hen aur), ac ynn (melyn lemwn).

Barn gyffredinol ar dawn yn Hydref o'r De-ddwyrain, Abaty Tyndyrn
Abaty Tyndyrn, Sir Fynwy yn yr Hydref

Ac er bod morloi llwyd yn byw ar arfordir Cymru drwy gydol y flwyddyn, dim ond yn yr hydref y byddwch chi’n gweld y morloi bach gwyn llaethog. Mae mamau morlo yn dewis rhoi genedigaeth mewn cwmni, gan greu nythfeydd mawr ar nifer o'n hynysoedd gan gynnwys Enlli yn y gogledd a Sgomer, oddi ar Sir Benfro. Mae'r mwyaf yr ochr arall i Fae Sain Ffraid, ar Ynys Dewi. Mae tua 600 o forloi bach yn cael eu geni yno bob blwyddyn, llawer ohonynt ar un traeth. Mae nifer cyfyngedig o deithiau ar gael gyda thywyswyr bywyd gwyllt, sy’n cynnig y golygfeydd gorau a mwyaf diogel i chi a’r morloi.

Morlo Llwyd yr Iwerydd, daith cwch Ynys Dewi
cwch o bobl yn gwylio dolphin môr oddi ar Ynys Dewi, Sir Benfro, De-orllewin Cymru
Morlo llwyd a thrip cwch oddi ar arfordir Ynys Dewi, Sir Benfro.

Gaeaf.

Lapiwch yn gynnes ar gyfer teithiau cerdded ar draethau gwyntog: yn aml fe welwch fod gennych un i chi'ch hun. Mae digon i ddewis o’u plith ym Mhenrhyn Gŵyr, o Rosili – sydd bellach yn nodwedd barhaol ar restrau o draethau mwyaf golygfaol y byd – i Langland gyda’i derasau tlws o gytiau traeth o’r 1920au. Ewch ymlaen i ogledd Gŵyr a cheg afon Tywi, ac fe welwch ugeiniau o adar yr aber gan gynnwys pioden y môr, y gylfinir a phibydd y mawn, eu niferoedd yn cynyddu llawer gan ymwelwyr sy’n gaeafu.

Red Kite bwydo o'r croen, Bwlch Nant yr Arian
Barcud Coch yn bwydo o guddfan, Bwlch Nant yr Arian

Mae hefyd yn amser gwylio barcutiaid. Y barcud coch oedd aderyn ysglyfaethus prinnaf Prydain ar un adeg, ac erbyn y 1950au roedd ar fin diflannu. Roedd llond llaw yn dal i fodoli ym mynyddoedd Cymru, a chydag ychydig o help gan wirfoddolwyr ymroddedig, maen nhw wedi dod yn ôl mewn ffordd drawiadol. Mewn gorsafoedd bwydo fel Fferm Gigrin ger Rhaeadr a Bwlch Nant yr Arian ger Aberystwyth, mae'r adar yn ymddangos yn eu hugeiniau ar ddyddiau llwglyd y gaeaf.

Nadolig atyniadau, Caerdydd
Nadolig atyniadau, Caerdydd
Marchnad Nadolig, Caerdydd

Wrth i'r Nadolig agosáu, mae marchnadoedd tymhorol yn ymddangos. Ymhlith y ffefrynnau sefydledig mae Caerdydd, gyda stondinau pren ar hyd prif lwybrau siopa Heol Eglwys Fair a'r Ais, a marchnad thema Fictoraidd Wrecsam; ond mae enghreifftiau ledled Cymru. Mae'n gyfle i sipian gwydraid o win cynnes a chwilio am anrhegion llawn dychymyg wedi'u gwneud â llaw.

Walker yn edrych tuag at wedi'i gorchuddio ag eira copa'r Wyddfa (Yr Wyddfa) o'r Llyn Llydaw Llyn, Eryri
Cerddwr yn edrych tuag at gopa'r Wyddfa dan orchudd o eira o lyn Llyn Llydaw, Eryri

Yn y rhan fwyaf o Gymru, rydych chi'n fwy tebygol o gael lluwch ysgafn o eira na thrwch go iawn (er ei fod yn digwydd weithiau - ysgrifennodd Dafydd ap Gwilym, bardd mawr Cymru'r Oesoedd Canol, am blu eira fel “haid o wenyn gwyn”). Mae'r Wyddfa mewn blanced wen yn olygfa odidog, er mae'n debyg na fyddwch chi'n gallu cyrraedd y copa: mae'r rheilffordd fynyddig yn cael seibiant haeddiannol bob gaeaf, ac mae dringo ar droed ar gyfer dringwyr arbenigol yn unig. Ond un rhinwedd wych yng ngogledd-orllewin Cymru yw nad yw tafarn gyda thanllwyth o dân byth yn rhy bell i ffwrdd.

Straeon cysylltiedig