Gallech gamgymryd y lle am atyniad treftadaeth, ac ar un wedd, dyna ydyw. Ond mae hefyd yn fusnes ffyniannus sy’n cyflogi 32 o bobl, y deunydd brethyn â’i batrymau nodweddiadol yn destun edmygedd gan bobl o bobman, o’r UDA i Japan.

Roedd y ffrwd a Gwyn yn golchi adeiladau Melin Tregwynt
Adeiladau gwyngalchu, Melin Tregwynt
Clychau'r gog yn coed ger Melin Tregwynt
Adeiladau gwyngalchog Melin Tregwynt a choedlannau clychau'r gog gerllaw.

Ar fore gwaith cyffredin, mae’r lle’n brysur, ac ymwelwyr gwyliau’n yfed coffi yn yr heulwen y tu allan i gaffi’r felin. Yn y siop, ceir pentyrrau tal o flancedi, clustogau a phob math o gynnyrch arall sydd wedi ei wneud gan ddefnyddio brethyn Melin Tregwynt. Mae cwsmer yn dal blanced yn erbyn y golau i weld y lliwiau ac mae’n ei mwytho’n dyner: pethau i’w cyffwrdd yw tecstilau.

 

Lleolwyd melin ar y safle ers yr 17eg ganrif, ac mae’n un o lond llaw o fusnesau sydd wedi goroesi o gyfnod pan oedd melin wlân i’w chanfod ymhob cwm yng Nghymru, bron. Wrth i drafferthion yr 20fed ganrif roi taw ar y rhan fwyaf ohonynt, canfu Melin Tregwynt lwybr drwy’r trybini – a heddiw, dyma draddodiad y mae ymwelwyr yn fodlon teithio i’w weld. Mae yna hudoliaeth yn y ffordd y troir gwlân yn frethyn.

Eifion Griffiths, perchennog presennol o Melin Tregwynt
Golwg agos ar y cynnyrch yn Melin Tregwynt
Eifion Griffiths, perchennog Melin Tregwynt a'r cynnyrch.

Esbonia’r perchennog presennol Eifion Griffiths mai’i dad-cu ddechreuodd y busnes. Prynodd hwnnw’r eiddo yn 1912, gan dalu £760 amdano mewn ocsiwn, ac roedd ei fodel busnes yn syml. Deunydd crai’r felin oedd gwlân a gynhyrchid ar ffermydd cyfagos, a byddai’r cynnyrch yn cael ei werthu yn y cyffiniau.

Meddai Eifion: “Roedd popeth yn digwydd mewn ardal fechan. Yn aml, byddai pethau’n cael eu gwerthu ar sail cyfnewid. O edrych yn ôl dros yr hen gyfrifon, fe ddaethon ni ar draws un cofnod am ffermwr a gyfnewidiodd feic modur am siwt newydd!”

Gafaelodd ei dad, Howard, yn yr awenau yn y 1950au. Hyfforddodd Eifion i fod yn bensaer, ond dychwelodd i Sir Benfro i weithio gyda’i dad yn 1979. "Roedd Dad yn ddyn busnes penigamp ond doedd dim llawer o ddiddordeb mewn dylunio na marchnata ganddo fe," meddai. "Ro’n i’n danbaid o blaid y ddau beth yna – felly roedden ni’n dîm da."

Peiriant yn Melin Tregwynt
Golwg agos ar y peiriant yn Melin Tregwynt
menyw gweithredu peiriannau, Melin Tregwynt
Y peiriannau ac aelod o staff yn gweithredu peiriant yn yr ystafell gwehyddu.

Neidiwch ymlaen at heddiw. Mae Melin Tregwynt yn dal i fod mor sownd ag erioed yn nhir Penfro, ond mae llawer o’r cwsmeriaid wedi’u lleoli ymhell bell i ffwrdd. Felly sut ddigwyddodd hynny?

Nid yw’r hanfodion wedi newid. Uwchlaw taranu’r peiriannau yn yr ystafell wehyddu, esbonia Eifion y broses sy’n cynhyrchu deunydd brethyn dwbl nodweddiadol y felin neu’r 'tapestri Cymreig'. Gwehyddir dwy haenen ynghyd i greu brethyn sy’n gryf, â phatrwm amlwg arno. Dyma dechneg a ddefnyddiwyd ers y 18fed ganrif, ac mae’n newid braf o gynlluniau digidol y gellir eu trosglwyddo ar unrhyw ddefnydd.

Does fawr o ryfedd mai’r rhan o’r felin sy’n denu’r mwyaf o bobl â’u camera yw’r silffoedd sy’n pwyso o edafedd amryliw. Labelwyd pob un, ac mae sawl enw’n dwyn natur i gof: dyna catkin (gwyrdd golau), shrew (brown disylw) a cornflower (glas serchus).

Gwiriad Cambrian yng Ngwesty Cambria yn Adelboden, y Swistir
Melin Tregwynt flanced gyda label
Y 'Cambrian Check', Gwesty'r Cambrian yn Adelboden, y Swistir.

Mae cydweithio diweddar wedi arwain at ledaenu enw Melin Tregwynt ymhell o gartref. Cynigir brethyn dwbl gan y manwerthwr o Japan, Muji, mewn siopau ledled Japan, China ac Ewrop. Gweithiodd Eifion a’i dîm gyda’r cwmni dylunio o Gymru, Smorgasbord, i greu brethyn arbennig ar gyfer Gwesty’r Cambrian yn Adelboden, y Swistir. Mae 'Cambrian Check' yn defnyddio lliwiau a ddetholwyd i adlewyrchu’r fforestydd a 'r dolydd mynyddig sy’n amgylchynu’r gwesty.

Rydym ni’n bendant yn 'fusnes rhywle' yn hytrach na 'busnes unrhyw le'."

I Eifion, allwedd llwyddiant Melin Tregwynt yw ei hunaniaeth Gymreig ac ymdeimlad cryf iawn o le. "Rydym ni’n bendant yn 'fusnes rhywle' yn hytrach na 'busnes unrhyw le'," meddai. "Rydym ni wedi ein gwreiddio yn y lle ble rydym ni, a dyna sy’n ein gosod ar wahân."

Straeon cysylltiedig