Mae gennym ni gyfleoedd chwaraeon mor wych yma yng Nghymru, o gystadlu ar y lefel uchaf hyd at lefel llawr gwlad. A does wahaniaeth os ydych chi’n cefnogi eich tîm neu’n cymryd rhan, mae yma angerdd sy’n rhan o’n diwylliant a’n hanes.

Cefais fy magu ag antur a chwaraeon yn rhan ganolog o fy mywyd, ac a minnau’n byw ar Benrhyn Gŵyr, roedd gen i’r tir perffaith o’m cwmpas. Ro’n i’n rhedeg o oedran ifanc iawn, ond yna es i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Y disgwyliad oedd hyfforddi fel cantores, ond dewisodd fy mywyd ddilyn llwybr arall. Rwyf bellach yn anturiaethwraig a rhedwr marathon wltra.

Anturwraig yn y blaen gyda thirlun eira yn gefndir
Lowri Morgan yn dal plentyn
Lowri Morgan

Fe wnaeth byw ble roeddwn i’n byw helpu, ac roeddwn i’n ffodus i gael pob cefnogaeth. Ro’n i’n lwcus iawn o ran athletau. Roedd trac ar gael brin 15 munud i lawr yr heol, a doedd byth angen teithio’n bell i hyfforddi. A phan oeddwn i’n chwarae rygbi i Gymru yn y brifysgol, roedd gennym hyfforddwr angerddol oedd yn ein hysbrydoli ni bob un i wthio ein hunain i’r eithaf.

Mae gennym ni gyfleusterau o ansawdd rhyngwladol, yr angerdd a chymaint o ddoniau yng Nghymru, ond datblygu, meithrin ac ysbrydoli pob cenhedlaeth newydd sy’n bwysig. Mae’n dechrau gyda’r camau cyntaf oll. Bydd enillydd y Tour de France 2018, Geraint Thomas, yn sôn yn aml am Glwb Seiclo Ieuenctid Maindy Flyers, yr oedd e’n aelod ohono pan oedd yn blentyn. Heb sefydliadau o’r fath, a’r gwirfoddolwyr sy’n gwneud yn siŵr fod plant yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd, fyddai ein hymdrechion ni ddim yn dwyn ffrwyth.

Geraint Thomas yn cael crys wedi ei fframio gan ferch ifanc ar ôl ras taith o Brydain
Tour Of Britain Cycling 2017
Geraint Thomas a Tour Of Britain Cycling 2017

Mae gennym ni nifer o ffigurau i’n hysbrydoli ar hyn o bryd. Enillodd athletwyr Cymru record o bedair medal aur yng ngemau Olympaidd 2016. Cipiodd Jade Jones y brif wobr yn yr ail Gemau’n olynol mewn taekwondo, enillodd Hannah Mills aur am hwylio, ac Elinor Barker ac Owain Doull mewn seiclo. Mae’n gamp a ailadroddwyd yn y gemau Paralympaidd, wrth i Hollie Arnold (gwaywffon), Aled Sion Davies (taflu pwysau), Rachel Morris (rhwyfo) a Rob Davies (tenis bwrdd) ddod adref â medal aur bob un. Ac mae hyn oll heb sôn am berfformiad anhygoel tîm pêl-droed Cymru yn Ewro 2016 – gan gynnwys Gareth Bale, wrth gwrs.

Gareth Bale yn gweithredu Cymru v Iwerddon cynrychiolydd
Gareth Bale

Mae’n help fod cynifer ohonyn nhw’n bobl mor ddi-lol. Fe allech chi ddeall pam fod pawb yn cefnogi Geraint Thomas gymaint, a pham y daeth cymaint i’w weld ym Mae Caerdydd ar ôl iddo ennill. Mae e’n foi diymhongar iawn yn ogystal â bod yn enillydd, a gall pobl uniaethu â hynny. Yn ei eiriau ei hun: "Dwi’n ddim ond person normal sydd wedi gweithio’n galed, galed iawn."

Yn fy marn i, mae ein sbortsmonaeth yn ddigymar. Mae’n ymwneud â chalon ac ysbryd. Roeddwn i yn Ffrainc yn gwylio tîm pêl-droed Cymru’n chwarae yn Ewro 2016, ac fe welais i’r fuddugoliaeth o 3-1 yn erbyn Gwlad Belg, un o dimau gorau’r bencampwriaeth. Doedd pobl yn methu â chredu angerdd Cymru – roedd yn heintus, ac roedd timau’r gwrthwynebwyr yn dymuno’n dda i ni, hyd yn oed.

’Nôl gartref, roedd e’n rhywbeth a dynnodd Gymru gyfan at ei gilydd, fel y mae modd i lwyddiant ym myd chwaraeon ei wneud. Roedd pobl na fydden nhw fel arfer yn ymddiddori mewn pêl-droed yn mynd i’w weld ar y sgriniau cyhoeddus a godwyd yn y parciau. Ac roedd hi'n wych gweld Ewro 2016 yn tynnu sylw’r byd at y Gymraeg, wrth i bencampwriaeth UEFA gynnal ei gynhadledd gyntaf i’r wasg yn Gymraeg.

Yn fy marn i, mae ein sbortsmonaeth yn ddigymar. Mae’n ymwneud â chalon ac ysbryd."

Mae’n wych hefyd fod gan Gymru enw cynyddol dda am gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr. Mae Caerdydd wedi cynnal rowndiau terfynol Pencampwriaeth Pencampwyr UEFA i ferched a dynion, brwydr focsio Anthony Joshua yn Stadiwm Principality, ac oedodd Ras Cefnfor Volvo yma hefyd. Daeth Cwpan Ryder i dde Cymru , ac mae beicwyr wedi taclo rhai o dirweddau mwyaf heriol (a hardd) ein cenedl yn ystod ras seiclo Tour of Britain. Mae gan hyn oll botensial enfawr i ysbrydoli sêr y dyfodol.

Dyfodiad Bleddyn Mon i Fae Caerdydd, Ras Hwylio Volvo
Timau Ras Hwylio Volvo yn rasio o flaen Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd
Bleddyn Mon, Ras Hwylio Volvo, Caerdydd 2018

Rydw i wedi bod yn ffodus iawn o gael teithio’r byd fel athletwraig a darlledwraig, ac mae pobl wastad yn holi o ble rydw i’n dod. Ar y dechrau, byddwn i’n dweud mod i’n dod o Gymru, heb fawr o ddisgwyl y bydden nhw’n gwybod at ble ro’n i’n cyfeirio. Ond mae cymaint yn gwybod am Gymru nawr, ac yn aml byddan nhw’n dweud: "Rydych chi’n byw mewn maes chwarae antur!"

traeth gyda dynes yn rhedeg yn y blaen a dyn yn y cefndir
Lowri Morgan

Mae’n wir – rydw i. Gallaf gamu allan o’r drws, ac rydw i bron yn y mynyddoedd, Gallaf fod yn hwylio’r cefnfor yn y bore, ac yna ar ben y copa uchaf yn y prynhawn: fy enw i amdanyn nhw yw’r gampfa las a’r gampfa werdd.

Mae ein llwyddiant diweddar ym myd chwaraeon yn fy ngwneud i’n falch iawn – o lwyddiant fy nghenedl, wrth gwrs, ond hefyd am fy mod i wedi cael y fraint o gystadlu yn rhai o rasys caletaf y byd a hedfan y faner dros Gymru. Mae dod o Gymru wedi fy siapio'n llwyr.

Straeon cysylltiedig