Seiliwyd holl gysyniad Coaltown ar ddod o hyd i ffotograff o fy hen dad-cu. Glöwr oedd e, fel y rhan fwyaf o’r teulu. Mae e’n dod o gyfnod pan oedd Rhydaman yn gymuned ffyniannus, roedd diwydiant lleol ar ei anterth, ac roedd y dre’n lle hapus iawn i fyw ynddi. Caeodd y pwll glo olaf yn 2003, a does fawr ddim diwydiant yma nawr, felly mae pobl yn tueddu i symud i ffwrdd. Ac ni ddylai hi fod fel ’na. Rwy’n caru fy nghartref, a byddwn wrth fy modd yn gweld pobl yn ymfalchïo yn Rhydaman unwaith eto.

Bwydydd coffi sy'n cludo merched mewn bagiau hessian
Sachau ffa Coaltown Coffee

Sut ddechreuoch chi yn y busnes coffi?

Fe ges i fy magu ynddo fe. Agorodd fy rhieni’r caffi-deli cyntaf yn Rhydaman. Roedd e’n uchelgeisiol iawn, ac fe wnaeth y lle godi’r dref gyfan. Fe gewch chi siopau o’r un ansawdd yn agor, ac mae’n ffynnu eto. Pan werthon nhw’r siop yn 2008, aeth Rhydaman yn ôl i’w hen ffyrdd dipyn bach. Mae’n anhygoel cymaint o wahaniaeth allwch chi ei wneud os ydych chi’n cyflwyno rhywbeth sy’n wirioneddol arbennig. Felly, fe benderfynon ni, ‘Dewch i ni wneud hynny gyda’r rhostfa (roastery).’ Roedd y cynnydd mewn coffi arbenigol wedi dechrau, felly pan sefydlon ni Coaltown, y bwriad oedd adfywio Rhydaman drwy gyfrwng math newydd o aur du, a dod â rhostfa i Gymru oedd yn canolbwyntio’n fawr ar darddiad a chynaliadwyedd ar yr un pryd.

Sut mae cychwyn rhostfa?

Mae’n costio’n ddrud i brynu rhostiwr, a doedd gen i ddim. Felly fe wnaeth fy nhad a minnau adeiladu ein rhostiwr ein hunain gan ddefnyddio barbeciw. Mae ganddo ddrwm yn y tu mewn sy’n troi ac yn aflonyddu’r coffi gwyrdd wrth iddo gael ei gynhesu. Y man gwan oedd yr hambwrdd oeri. Bydd rhostwyr masnachol yn sugno awyr oer i mewn, sy’n gwahanu eich mân us. Ond fe wnaethon ni ein un ni allan o ffan hen gar Ford Ka, oedd yn oeri’r ffa drwy chwythu, felly roedd hi’n glawio us drwy’r amser. Roedd e’n creu llawer o lanast, ond roedd e’n rhostiwr heb ei ail.

Arllwys coffi i mewn i fag a soser
Ffa coffi
Y tu allan i Coaltown Coffi gydag arwydd pren
Coaltown Coffee

Ydy e’n dal i weithio?

Ydy, ond dim ond 4kg o goffi bob chwarter awr y mae’n gallu rhostio. Fe wnaethon ni godi’r arian i brynu rhostiwr masnachol 12kg, ac rydym ni newydd brynu peiriant 75kg, sy’n gwneud bywyd lawer yn haws. Rydw i’n hoff iawn o fodelau treftadaeth. Yr unig broblem yw bod y fath alw amdanyn nhw, eu bod nhw’n diflannu gynted ag y maen nhw’n mynd ar y farchnad. Pan ddaeth rhostiwr o’r 1950au ar y farchnad yn yr Eidal, fe wnaethon ni dalu’r blaendal yn ddall am ein bod ni wir eisiau’i gael. Aeth tair wythnos heibio, heb sôn am y peth yn cyrraedd. Pan ddaeth o’r diwedd, roedd yn gasgliad o ddarnau metel wedi rhydu. Roedd ganddyn nhw luniau o’r man ble cafodd ei ddarganfod, wedi’i chwalu o gwmpas buarth fferm y tu allan i Rufain. Roedd ceiliog yn cerdded ar draws top y drwm. Fe wnaethon ni dreulio dwy flynedd yn ei adfer, ond mae popeth wedi bod yn werth yr ymdrech. Mae’n un o’r rhai prinnaf i gael ei wneud erioed.

Coffi profi cynnyrch
Blasu coffi Coaltown

Ble fyddwch chi’n gwerthu eich coffi?

Rydym ni’n cyflenwi rhyw 240 o gwsmeriaid, yng Nghymru’n bennaf, ond rydym ni hefyd yn gwerthu yn Selfridges, ac mewn lleoedd fel Rhydychen, Llundain a Bryste. Mae gyda ni ddau fan gwerthu yn Rhydaman ei hun hefyd. Fe es i i Efrog Newydd, ac mae’r ffordd y maen nhw’n gwneud pethau yn Brooklyn yn ddigon i ysbrydoli unrhyw un. Fe wnes i feddwl, ‘Gallwn ni wneud hynny yn Rhydaman.’ Felly fe ddaethon ni o hyd i uned mewn arcêd Edwardaidd. Doedd y rhent ddim yn llawer, felly roedd yn lle da i roi cynnig ar ein syniadau. Mae’n fach iawn – 17 sedd ar y mwyaf – ond roedd pobl yn teithio o Lundain a Bryste i’w weld. Mae wedi bod yn arbrawf ardderchog ar gyfer sefydlu’r rhostfa newydd rydym ni newydd symud iddi. Mae ein holl waith cynhyrchu’n digwydd fan hyn nawr. Mae gyda ni gaffi hefyd, ffwrn pitsa, swyddfa, cegin a llawr mezzanine ar gyfer hyfforddi. Rydym ni ar agor o wyth tan wyth, bob dydd o’r wythnos.

Hidlo coffi y tu ôl i'r cownter
Amrywiaethau coffi wedi'u harddangos ar silff
Siop goffi Coaltown

Felly ydy hynny’n golygu eich bod chi’n gyflogwr mawr yn lleol?

Dyna'r cynllun. Ac rydyn ni'n canolbwyntio'n fawr ar uwchsgilio: rydyn ni wedi sefydlu Academi Coaltown sy'n ymwneud â hyfforddi pobl leol a dod o hyd i waith iddyn nhw yn y diwydiant coffi, naill ai gydag un o'n cwsmeriaid cyfanwerthol neu fel rhan o'n tîm. Rydym yn cyflogi tua 30 o bobl ac rydym hefyd wedi cael tri aelod o Academi Coaltown i gwblhau hyfforddiant yn llwyddiannus ac wedi dod o hyd i swyddi iddynt yn y diwydiant lleol.

Coaltown Coffi, pacio ffa
Peir coffi wedi'i becynnu ar silff
Cynhyrchu coffi Coaltown

Felly a oes modd i goffi helpu i ysbrydoli adfywiad yn Rhydaman?

Dyna fy ngobaith. Rydw i am i bobl newid eu dehongliad o gartref a meddwl, ‘Chi’n gwybod, fe allen ni wneud busnes o gartref. Does dim rheswm pam lai.’ Rydym ni mewn oes nawr pan fydd y rhan fwyaf o werthu’n digwydd dros y we. Ein gwefan sy’n cynhyrchu’r rhan fwyaf o fusnes newydd. Felly os oes modd ei wneud yng nghefn gwlad Cymru, mae modd ei wneud yn unrhyw le. Roedd Brooklyn a Shoreditch yn ardaloedd difreintiedig o Efrog Newydd a Llundain. Pam na allwn ni wneud yr un peth yn Rhydaman?

Sut deimlad oedd hi pan gawsoch chi eich enwi’n un o brif rostfeydd y DU gan Lonely Planet?

Fe gafodd hynny effaith enfawr. Fe ddaeth Lonely Planet i ymweld â ni yn yr hen rostfa, ac fe gawson ni sgwrs gyffredinol. Doeddwn i ddim yn sylweddoli cymaint o beth mawr oedd hynny, nes i bobl ddechrau fy ffonio i gymryd rhan ar newyddion y BBC a Talk Radio. Roedd e’n rhyfedd iawn. Ond mae cael ein henwi’n un o bum coffi gorau’r DU… mae hynny wedi ein syfrdanu.

Coffi arllwys gwryw y tu ôl i'r cownter
Tu mewn i siop goffi Coaltown

Straeon cysylltiedig