Mae Cymru’n lle i fyw ynddo, nid i ddod ar wyliau’n unig: cenedl fodern â thirwedd amrywiol o ran economi, diwylliant a hamdden, gan wneud gweithio, gorffwyso a chwarae’n beth hawdd iawn i’w fwynhau.

Symudodd Dr Alan Parker i Fro Morgannwg yn 2013, gyda’i wraig a dau o blant. "Mae De Cymru yn lle croesawgar a fforddiadwy i fyw, gydag ansawdd bywyd gwych ac ysgolion da," meddai. “Mae gennym ni drefi llawn bwrlwm fel y Bont-faen a Phenarth ar garreg ein drws, yn ogystal â chefn gwlad hardd.

"Rwyf i a fy nheulu'n mwynhau cerdded ar hyd traethau Llwybr Arfordir Treftadaeth Morgannwg ger ein cartref, yn ogystal â mynd ar deithiau dydd a gwyliau byr yn Sir Benfro, Gŵyr a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Dydym ni byth yn brin o lefydd i'w harchwilio; hyd heddiw, rwy'n dal i ddod o hyd i lwybrau troed a chaeau newydd yn agos at ein tŷ ni."

Pan nad yw’n gweithio gartref, mae Dr Parker yn cymudo i Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Yno, mae'n cymryd rhan mewn ymchwil sy'n arwain y byd i frwydro yn erbyn canser gyda firysau a addaswyd yn enetig. Yn ystod pandemig COVID-19, roedd Dr Parker a'i dîm yn gallu defnyddio eu sgiliau a'u hadnoddau firoleg i helpu yn y ras i gynhyrchu brechlyn COVID-19.

"Pan ddywedwyd wrth bawb am aros adref, doeddem ni ddim yn gallu mynd i mewn i'r labordy i wneud ymchwil canser. Yn lle hynny, fe wnaethon ni wneud defnydd da o'n hamser; fe wnaeth pandemig y coronafeirws oedi rhai triniaethau canser a datblygiadau ymchwil, felly fe wnaethom bopeth a allem i helpu i ddod o hyd i frechlyn, a oedd yn ei dro yn golygu y gallem fynd yn ôl i wneud ein hymchwil canser yn gynt.

“Mae gennym ni fanc o filoedd o firysau rydyn ni’n eu defnyddio fel rhan o’n hymchwil canser, felly fe wnaethon ni edrych i mewn i ffyrdd o newid pa enynnau a fynegwyd er mwyn eu troi’n frechlynnau COVID-19. Rwy’n teimlo’n falch o’r hyn rydyn ni’n gallu ei wneud fel tîm sy'n arwain y byd o ran datblygu firotherapïau ar gyfer triniaeth canser, a sut rydym wedi gweithio gyda'n gilydd i roi Cymru ar y map o ran datblygu brechlynnau."

Physic ardd, y Bont-faen
Pier Penarth, Bro Morgannwg, De Cymru
Gardd Berlysiau, Y Bont-faen a Phier Penarth, Bro Morgannwg

“Pan symudon ni i Sir Benfro, roedd hynny er mwyn y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith,” meddai Julian Rollins – newyddiadurwr, darlledwr ac awdur canllawiau cerdded i Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. “Roeddwn i wedi bod yn Birmingham, a byddai fy nhaith yn y car ar yr M6 i’r gwaith yn aml yn cymryd dwy awr hir. Byddwn i'n cyrraedd adref ymhell ar ôl i'r plant fynd i’w gwely."

Tra’r oedd y plant yn yr ysgol roedd y teulu yn byw mewn pentref yn agos i lannau Bae Ceredigion yng Ngorllewin Cymru. "Y peth gorau oedd bod y môr tua 20 munud i ffwrdd: roedd mynd i'r traeth yn rhywbeth bob dydd. Pan oedd y plant yn ifanc roedden ni'n gallu eu codi nhw ar ddiwedd yr ysgol a mynd i nofio neu syrffio.

"Nawr, mae'r merched wedi tyfu i fyny ac wedi symud ymlaen. Rwy'n dal i fyw yn Sir Benfro, ond rydw i wedi ailffocysu fy sefyllfa waith fel nad ydw i'n gweithio neu’n ysgrifennu o gartref bob dydd. Mae gen i swydd addysgu rhan amser yn ne Sir Benfro, felly symudais i Ddoc Penfro er mwyn cael taith mwy synhwyrol. Dim ond 15 munud o ddrws i ddrws yw hi.

Mae gan fy nhŷ newydd olygfa o'r môr, sy'n wych. Rwy'n gweld y fferi i Iwerddon yn mynd a dod bob dydd. Pan dwi’n gwneud gwaith o gartref, mae’n dda gallu cymryd hoe drwy fynd â’r ci am dro ar hyd glan y môr a gwylio cychod yn mynd a dod.

Barn Poppit Sands a Bae Aberteifi Gwbert Ceredigion yn edrych
Mwnt, Ceredigion
Traeth Poppit, Ceredigion a thraeth Mwnt, Ceredigion

Dychwelodd Lowri Williams i weithio ger ei dinas enedigol, Bangor, yng Ngogledd Orllewin Cymru. “Mae’r Gymraeg yn ganolog i fy mywyd a’m hunaniaeth,” meddai, “ac roedd yn bwysig i mi symud yn ôl i’r ardal lle treuliais fy mhlentyndod i fagu fy mab fy hun, ac i gyfrannu at y gymuned a’i dyfodol.

“Mae’n wych ein bod wedi ein hamgylchynu gan gymaint o weithgareddau awyr agored yn Ynys Môn ac Eryri – gallaf fod wrth fy nesg drwy’r dydd ac ar ben mynydd gyda’r nos, gyda golygfeydd godidog o’m cwmpas.”

Golygfeydd Eryri, llwybr mynyddig- llun wedi'i dynnu o ganol y ffordd
cefn pennau pump o bobl wedi'i hamlapio mewn blanced liwgar gyda'r môr yn y cefndir.
Pen-y-Pass, Eryri a Portmeiron

Yng Nghymru, mae gallu cydbwyso gyrfa werth chweil a bywyd ysbrydoledig y tu allan i’r gweithle yn nod sy’n bosibl. Ar ochr waith yr hafaliad, gall hyd yn oed y daith ddyddiol i’r gwaith fod yn donig yn hytrach nag yn niwsans.

Mae'r rhai sy'n gyrru ddwywaith y dydd trwy Barc Cenedlaethol hardd Bannau Brycheiniog yn mwynhau golygfeydd llawer mwy ysbrydoledig na thu mewn i dwnnel Tiwb Llundain. Ac mae’n anodd dychmygu gwell olygfa foreol na thynnu i mewn i Lanelli ar yr hyn y mae’r Guardian wedi’i galw’n ‘rheilffordd fwyaf deniadol Ynysoedd Prydain’. Mae ein cysylltiadau trafnidiaeth yn dda, ac maent yn gwella. Ar y rhwydwaith rheilffyrdd, mae rhaglen o welliannau trylwyr yn bwriadu cwtogi amseroedd teithio, cynyddu gwasanaethau yn ystod yr wythnos a chyflwyno trenau a gorsafoedd newydd, dros y blynyddoedd i ddod.

Golygfa o'r Bannau Brycheiniog
Sgwd yr Eira Raeadr, Bannau Brycheiniog
Golygfa o’r awyr o Fannau Brycheiniog a Sgwd yr Eira, Bannau Brycheiniog

I lawer sy’n symud i Gymru, mae’r posibilrwydd o gael bywyd teuluol gwell yn selio’r fargen. Mae ysgolion lleol wrth galon pob cymuned Gymraeg. Mae gan y genedl ei system addysg ei hun, sy'n wahanol i weddill y DU, ac mae Estyn - y corff sy'n cynnal safonau - wedi graddio 77% o'r holl ysgolion yn 'dda' neu'n 'rhagorol'. Mae pob plentyn yn cael y cyfle i ddysgu Cymraeg, neu i gael eu holl addysg yn yr iaith. Mae digon o gyfle i oedolion gael gafael ar y Gymraeg hefyd, o gyrsiau preswyl a dosbarthiadau nos i sesiynau ‘galw heibio’ anffurfiol mewn caffis lleol lle gallwch hogi eich sgiliau sgwrsio.

Merch yn astudio ar fainc ym Mharc Bute, Caerdydd
Astudio ym Mharc Bute, Caerdydd

Mae Cymru yn lle amrywiol a chosmopolitan. Ein dathliad LHDT+ enwocaf yw Pride Cymru, sy'n canolbwyntio ar 'Y Penwythnos Mawr' yng Nghaerdydd. Mae’n gymysgedd bywiog a lliwgar o gerddoriaeth a gorymdeithiau stryd, gyda baner yr enfys yn chwifio’n falch o’r Castell i lawr i’r Bae. Yna mae Gŵyl Gwobr Iris – un o ddigwyddiadau ffilm LHDT+ mwyaf sefydledig Ewrop, gyda gŵyl chwe diwrnod yn y brifddinas a digwyddiadau allgymorth gydol y flwyddyn ledled y wlad.

Baneri'r Enfys ar Castell Caerdydd
Gwrywaidd neu ddau ddal dwylo yng Ngŵyl Pride Cymru
Bobl yng Ngŵyl Pride Cymru
Gŵyl Pride Cymru yng Nghaerdydd

Mae’r wyth prifysgol sydd gennym yn ymddangos yn rheolaidd yn agos at frig tablau cynghrair y DU am foddhad myfyrwyr, ac maent yn enwog ledled y byd am ragoriaeth academaidd ar draws ystod eang o bynciau."

Mae’r wyth prifysgol sydd gennym yn ymddangos yn rheolaidd yn agos at frig tablau cynghrair y DU am foddhad myfyrwyr, ac maent yn enwog ledled y byd am ragoriaeth academaidd ar draws ystod eang o bynciau. Mae hyn wedi denu myfyrwyr o dramor i astudio yma, gyda’r nifer bellach yn fwy na 19,000, yn dod o fwy na 170 o wledydd.

fyfyrwyr y tu allan i adeilad Prifysgol Bangor
Gweithiwr gwrywaidd yn gweithio ar gyfrifiadur CEMAS-Canolfan Ragoriaeth mewn cymwysiadau symudol a gwasanaethau, Prifysgol De Cymru
Myfyrwyr benywaidd yn y labordy, Prifysgol Abertawe
Prifysgol Bangor, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Abertawe

Yn wir, rydym ni’n genedl sy’n edrych allan i’r byd yn hy, diolch i gysylltiadau addysgol, busnes a diwylliannol hirhoedlog â chenhedloedd a rhanbarthau ledled y byd.

Mae ein prifddinas yn glytwaith o ddiwylliannau gwahanol. Dyma etifeddiaeth y cyfnod pan oedd glo a haearn yn tra-arglwyddiaethu, a Chaerdydd yn un o borthladdoedd mwyaf y byd. Byddai masnachwyr a morwyr o bob cenedl forwrol yn y byd yn dod i Tiger Bay i ennill bywoliaeth. Dewisodd miloedd ohonynt beidio â gadael wedyn, gan ddod yn falch o’u Cymreictod – ond gan drosglwyddo eu harferion a'u diwylliant unigryw i’w plant hefyd

 Y tu allan i flaen adeilad Pierhead ym Mae Caerdydd
 Gwaith brics allanol adeilad Pierhead ym Mae Caerdydd, yn dangos y geiriau 'Bute Docks Company'
Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd oedd swyddfa weinyddol Porthladd Caerdydd ym 1947

Ceir cymunedau sefydlog yng Nghymru o bobl o sawl gwlad, a’r grwpiau amlycaf yw pobl o India, Iwerddon a China. Mae’n gyfnewidfa ddiwylliannol ddeuol: bydd dathliadau Dydd Gŵyl Dewi bellach yn digwydd yn Chongqing, yn yr un modd ag y nodir Blwyddyn Newydd China yn ein gwlad ni.

Mae Cymru’n lle i fyw ynddo, nid i ddod ar wyliau’n unig: cenedl fodern â thirwedd amrywiol o ran economi, diwylliant a hamdden, gan wneud gweithio, gorffwyso a chwarae’n beth hawdd iawn i’w fwynhau.

Straeon cysylltiedig