Cafodd Luke Evans ei a’i fagu yn Ne Cymru, ac o gymryd rhan mewn sioeau cerdd yn y West End symudodd i ffilmiau mawr Hollywood, pan ymddangosodd yn Clash of the Titans yn 2010. Ers hynny mae wedi actio’r prif rannau yn The Three Musketeers, y gyfres Fast & Furious ac addasiad byw Disney o Beauty and the Beast.

Dod adre i Gymru

Dychmygwch hyn: rydych chi’n cerdded ar hyd lôn fach wledig yng Nghymoedd y De ac mae car yn stopio. Mae’r ffenestr yn agor, ac yn sedd y gyrrwr mae neb llai na Luke Evans, seren ffilmiau fel Beauty and the Beast a’r gyfres The Hobbit. Mae eisiau help arno i ddod o hyd i dafarn neu le bwyta gerllaw.

Annhebygol iawn, efallai, ond nid yn amhosibl.

Mae’r actor, a gafodd ei eni ym Mhont-y-pŵl a’i fagu yn Aberbargod yng Nghwm Rhymni, yn dweud ei fod yn hoffi dod adre (lle mae ei deulu’n byw o hyd) mor amal ag y gall. Ond mae’n cyfaddef, oherwydd yr holl waith adeiladu yn yr ardal yn ddiweddar, ei fod yn colli ei ffordd weithiau.

“Rydw i wrth fy modd yn mynd adre, ond dydy’r lle ddim byd yn debyg i’r hyn oedd e pan oeddwn i’n ifanc – mae adeiladau newydd crand a ffyrdd newydd i’w gweld ym mhobman,” meddai. “Rwy wedi mynd ar goll yn llwyr ambell dro ac wedi gorfod gofyn i bobol sut i fynd.”

Luke Evans yn cerdded i lawr ponŵn dros Llyn tuag at awyren fach
Luke Evans yn cerdded allan o awyrennau bach gyda mwg y tu ôl iddo
Luke Evans, Llyn Gwynant yn Eryri

Atgofion Plentyndod

Roedd Luke Evans yn benderfynol o wireddu ei freuddwyd o actio ar lwyfan, a symudodd i Lundain yn 18 oed. Llwyddodd mewn nifer o gynyrchiadau yn y West End yn ystod y deng mlynedd nesaf, gan gynnwys Rent, Miss Saigon ac Avenue Q. Er ei fod wedi gadael Cymru yn ddyn ifanc, mae ei flynyddoedd cynnar yma yn dod ag atgofion melys i’r actor.

“Mae rhai o atgofion gorau fy mhlentyndod am arfordir Cymru. Byddem yn mynd ar ein gwyliau i Saundersfoot yn Sir Benfro, gyda fy nghefnder a’i deulu gan aros mewn carafán”, meddai Evans. “Mae gen i atgofion hyfryd am ganol tref Dinbych-y-pysgod, yr harbwr a’r rhes o dai i gyd mewn lliwiau ysgafn, a’r cychod yn dawnsio ar y dŵr.”

“Byddem hefyd yn mynd i bysgota yn y nos,” meddai, “ond byddem yn treulio mwy o amser yn colli ein sgidiau wellingtons yn y tywod nag yn dal unrhyw beth.”

Cwch melyn yn yr Harbwr yn llanw isel yn Ninbych-y-pysgod yn y cefndir
Golygfa cwpwl o'r cwpl yn Saundersfoot ar fainc yn edrych allan i'r dŵr
Llun ongl lydan o Ddinbych-y-pysgod wedi ei gymryd o'r môr gyda'r Harbwr, y tai a'r orsaf bad achub
Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot, Sir Benfro.

Ffyrdd gyrru godidog yng Nghymru

Y dyddiau hyn rydych yn fwy tebygol o weld yr actor, sydd hefyd wedi cael rhannau yn y ffilmiau The Girl on the Train, Dracula Untold a’r gyfres hir Fast & Furious, yn ymlacio ar gychod neu’n mwynhau mewn dinasoedd fel Bogota yn ystod ei amser segur, ond mae’n dal i gael mwynhad unigryw wrth gael gwyliau yng Nghymru.

“Fyddwn i ddim yn dweud mod i’n petrolhead, ond rhowch i mi gar bach cyflym a diwrnod i’w dreulio’n gyrru drwy Gymru, ac fe fyddaf wrth fy modd,” meddai Evans. “Rai blynyddoedd yn ôl dilynais yr A40, sydd hefyd yn cael ei galw’n Ffordd Cambria, bob cam o Landudno ar arfordir y gogledd i Gaerdydd yn y de. Mae’r rhan sy’n mynd drwy Eryri yn wirioneddol ryfeddol.”

Mae pob tro yn cynnig golygfa syfrdanol arall - ac mae gennych chi Fannau Brycheiniog i ddod o hyd."

4x4 gyrru i ffwrdd o'r camera drwy Eryri
Eryri – gyrru gyda golygfa

Tri thraeth gorau Cymru

Mae Evans hefyd yn sicr ble mae ei dri thraeth gorau yng Nghymru.

“Rydw i’n hoff o Bae Barafundle yn Sir Benfro erioed, nid yn unig am fy mod yn hoffi dweud 'Barafundle', sy’n air gwych,” meddai. “Ond mae’n draeth bach perffaith, preifat a thwyni tywod a choed pîn o’i gwmpas. Gallwch fynd â’r cŵn am dro a gwneud cymaint a fynnwch o sŵn.”

“Wedyn mae 'Bae’r Tri Chlogwyn ar Benrhyn Gŵyr, gydag olion ei gastell a chwm coediog uwchlaw,” meddai Evans. “A’r trydydd lle i fi yw Tre-saith, ger Aberteifi, sydd ychydig oddi ar Lwybr Arfordir Cymru - a thra byddwch yno galwch yn y Ship Inn gerllaw!”

Ar ôl actio’n ddiweddar yn y cyfresi teledu costus The Alienist a Nine Perfect Strangers, mae’n ymddangos bod gyrfa Luke yn mynd o nerth i nerth, a’r actor yn teithio ar draws y byd i ffilmio. Er hynny i gyd, profiad yng Nghymru sydd ar frig ei restr ar hyn o bryd.

“Pan oeddwn i’n cymryd rhan yn ymgyrch hyrwyddo Cymru: Blwyddyn y Môr, buom yn ffilmio o awyren fechan,” meddai Evans. “Dilynwyd yr arfordir i’r de o Eryri, ac yno gallech weld llamhidyddion a dolffiniaid yn chwarae ym Mae Ceredigion. Rwy’n bwriadu mynd ar daith mewn cwch i gael eu gweld yn agosach - yma mae un o’r poblogaethau mwyaf ym Mhrydain o ddolffiniaid trwynbwl!”

Llun o Fae Three clogwyni wedi ei gymryd o dwyni yn edrych allan ar y tri chlogwyni a'r môr
Three Cliffs Bay, Penrhyn Gŵyr

Straeon cysylltiedig