Yn ôl Brian Weir, cyfarwyddwr profiad myfyrwyr, "Mae ein croeso’n dechrau fisoedd cyn iddyn nhw fynd ar yr awyren – ac nid y stwff ymarferol, fel fisas neu drefniadau teithio, yn unig y byddwn ni’n mynd i’r afael â nhw.

Rydym ni’n eu rhoi nhw mewn cyswllt â myfyrwyr eraill, er mwyn eu bod nhw’n adnabod pobl cyn iddyn nhw fynd ar yr awyren. Mae gennym ni fentrau fel y cynllun Canfod Ffrind: mae hyn yn galluogi myfyrwyr i ddweud wrthym sut berson fyddai’n ddelfrydol i rannu llety gyda nhw, er mwyn i’r tîm profiad myfyrwyr weld pwy fyddai’n gallu cyd-fyw’n dda gyda’i gilydd."

Perfformiad o Richard III, CBCDC
Canu'r gîtar myfyriwr CBCDC
Perfformiad o Richard III a myfyriwr yn chwarae'r ffidil.

Mae’r conservatoire, a leolir mewn adeilad modern nodedig ger Castell Caerdydd, sydd wedi dod yn un o leoliadau diwylliannol mwyaf blaenllaw Caerdydd, yn gyfeillgar a chosmopolitaidd. Daw tua 180 o'r 850 o fyfyrwyr o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig, a cheir cynrychiolaeth o bron i 50 o wledydd yn eu plith.

Bydd y coleg yn cribinio’r byd er mwyn denu’r doniau mwyaf addawol, gan gynnal clyweliadau’n rheolaidd mewn dinasoedd ledled Asia a Gogledd America; a cheir llif cyson o artistiaid ac athrawon sy’n ymweld â’r coleg o bob cwr o’r byd.

Ond rydw i’n meddwl hefyd fod cyfoeth diwylliant Cymru a’r hyn yr ydym ni’n gallu ei gynnig i’r byd yn rhywbeth unigryw, a rhywbeth sy’n haeddu cael ei ddathlu."

Croesawu’r byd

Yn ogystal â bod yn ganolfan addysgu, mae’r Coleg ei hun yn ganolbwynt ar gyfer digwyddiadau o safon ryngwladol. Mae Cyfres Biano Ryngwladol Steinway yn denu perfformwyr rhyngwladol o’r safon uchaf, ac mae'r Coleg hefyd wedi cynnal gŵyl flaenllaw Cynllunio Llwyfan y Byd. Cynhelir Cyngres Delyn y Byd yn y Coleg Cerdd a Drama yn 2020, y tro cyntaf i’r digwyddiad gael ei lwyfannu yn Ewrop ers 12 mlynedd.

Mae gan Isaac Shieh, is-lywydd Undeb y Myfyrwyr sydd â chyfrifoldeb dros fyfyrwyr rhyngwladol, brofiad personol o gyrraedd yng Nghymru o ben pella’r byd. Ac yntau’n dod o Seland Newydd, er iddo gael ei eni yn Hong Kong, bu’n byw yn Awstralia cyn dod i Gymru i gychwyn ar radd Meistr mewn offerynnau corn hanesyddol. Mae’n bwnc go arbenigol, a’r Coleg Cerdd a Drama yw’r unig gonservatoire ym Mhrydain sy’n meddu ar yr arbenigedd penodol i’w ddysgu.

Meddai ef: "Am fy mod i wedi dod i’r coleg er mwyn cael fy nysgu gan athro penodol, doeddwn i ddim wedi gwneud dim gwaith cartref ynglŷn â sut le oedd Caerdydd – ond ro’n i’n teimlo’n gartrefol yma ar unwaith. Mae Caerdydd yn ddinas sydd wir yn cofleidio newydd-ddyfodiaid."

Golygfa o'r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama, Caerdydd
Bobl yn ymlacio ar y glaswellt ym Mharc Bute
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn agos iawn at Barc Bute yng Nghaerdydd.

Dathlu amrywiaeth

Mae cael cynrychiolydd rhyngwladol penodol yn Undeb y Myfyrwyr yn hanfodol, medd llywydd yr Undeb Lloyd Pearce."Mae hefyd yn bwysig i greu llecynnau a chynnal digwyddiadau sy’n darparu ar gyfer corff amrywiol iawn o fyfyrwyr,” meddai ef. "Rydym ni’n ceisio gwneud popeth mor gynhwysol â phosib, er mwyn gallu denu’r myfyrwyr hynny sy’n dod o ddiwylliannau gwahanol."

 

Yn fwy na hynny, mae’r gyfnewidfa ddiwylliannol yn gweithio’r ddwy ffordd yn y Coleg Cerdd a Drama. Mae myfyrwyr o dramor yn cael cyfle i rannu eu gwybodaeth a’u cefndiroedd diwylliannol yn ystod wythnos Diwylliant Rhyngwladol. Bellach, daeth i gael ei gydnabod fel un o uchafbwyntiau artistig blwyddyn y Coleg, gan gyflwyno pawb i ffurfiau celfyddydol fel opera traddodiadol o China, darnau clasurol o India ar gyfer y ffliwt a cherddoriaeth qanun o Syria, nad oes fawr neb o’r tu allan i’w gwledydd gwreiddiol yn gwybod amdanynt.

Mae Isaac yn ychwanegu: "Dwi’n falch iawn o’r ffaith fod pob un o’n myfyrwyr ni’n cael y ddealltwriaeth hon o ddiwylliannau gwahanol, ac nid am fod hynny’n adlewyrchu cymdeithas gyfoes yn unig. Mae’r diwydiant yn rhyngwladol iawn erbyn hyn – does ond angen edrych ar gynnwys cerddorfeydd, a chynifer o genhedloedd gwahanol ynddyn nhw. Bydd y profiadau hyn yn bwysig pan fydd myfyrwyr yn mynd mas i fyd gwaith."

Prifddinas ddiwylliannol

Mae bod ynghanol y ddinas yn helpu myfyrwyr rhyngwladol i gysylltu â chymuned artistig ehangach Cymru. Does dim prinder o leoliadau perfformio rhagorol o fewn cyrraedd cyfleus, fel Canolfan Mileniwm Cymru, Neuadd Dewi Sant a’r Theatr Newydd. Mae Caerdydd yn gartref i Opera Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Cymru y BBC, ac oherwydd y llu lleoliadau llai – fel y Café Jazz a Chlwb Ifor Bach neu Ganolfan Celfyddydau Chapter a Theatr Sherman – mae cyfle i brofi pob math o fentrau creadigol.

"Mae bywyd diwylliannol yn fwy hamddenol yma, nag ydyw yn Llundain wyllt,” meddai Isaac, “ond mae yna fantais i hynny. Rydych chi eisiau cael y math o brofiad dysgu ble rydych chi’n cael gweld perfformiadau o safon ryngwladol, ond rydych chi hefyd yn cael amser i ddysgu ac amsugno’r profiad."

Canolfan Mileniwm Cymru, nighttime
Canolfan Celfyddydau Chapter, Caerdydd
Canolfan Mileniwm Cymru a Chanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd.

Meddai Brian Weir: "Mae cerddoriaeth yn gallu llefaru ar draws y cenhedloedd mewn modd nad yw llawer o bynciau eraill yn gallu gwneud, a bu Caerdydd yn ddinas sy’n edrych tuag allan erioed – roedd yn borthladd mawr oedd yn allforio ledled y byd, wedi’r cyfan. Rydw i’n meddwl bod ein gallu ni i gofleidio diwylliannau eraill yn ganolog i anian y ddinas ei hun. Ond rydw i’n meddwl hefyd fod cyfoeth diwylliant Cymru a’r hyn yr ydym ni’n gallu’i gynnig i’r byd yn rhywbeth unigryw, a rhywbeth sy’n haeddu cael ei ddathlu. Wrth i’r Coleg fynd allan i’r byd, mae’r byd, yn ei dro, yn dod atom ni."

Straeon cysylltiedig