Wrth deithio trwy Gymru — boed hynny yn y cnawd neu drwy ddilyn map — byddwch yn cael eich taro gan gyfoeth a harddwch enwau lleoedd y genedl: dwy fil o flynyddoedd o hanes wedi eu naddu i’r tir.

Mae’r rhan fwyaf o enwau lleoedd Cymru yn yr iaith Gymraeg, wrth gwrs. Ond fe welwch hefyd enwau y mae eu tarddiad yn gorwedd mewn ieithoedd eraill: Saesneg, Ffrangeg, Gwyddeleg, Fflemeg, Lladin, Norseg a Brythoneg — yr iaith a siaredid yma ryw 2,000 o flynyddoedd yn ôl ac a ddatblygodd i’r iaith Gymraeg sy’n gyfarwydd inni heddiw.

Darlun o gastell
Caer, yn golygu lle gyda chaer, neu gastell.

Wrth drafod rhai o’r enwau lleoedd hyn, gadewch inni ddechrau yn y brifddinas. Mae’r enw modern Caerdydd yn deillio o’r ffurf ganoloesol Caerdyf (sydd hefyd yn rhoi Cardiff yn y Saesneg). Y gair cyfarwydd caer yw rhan gyntaf yr enw, a ffurf ar enw afon Taf yw’r ail ran. Mae ieithyddion wedi dangos bod yr enw hwn — ‘y gaer ar afon Taf’ — wedi ei lunio’n gyntaf yn yr iaith Frythoneg, yn y cyfnod pan oedd y Rhufeiniaid yn byw yng Nghaerdydd tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl.

Darlun o afon
Aber, yn golygu aber (neu geg) afon.

Yn aml iawn, mae ystyron enwau lleoedd Cymraeg yn gwbl glir i siaradwyr Cymraeg. Mae Abertawe, er enghraifft, yn golygu aber (neu geg) afon Tawe. Ond gall pethau fod yn fwy cymhleth yn Saesneg. Nid oes a wnelo’r enw Swansea, er enghraifft, ddim oll ag elyrch, er gwaethaf y ffaith mai ‘The Swans’ yw llysenw’r clwb pêl-droed. Mewn gwirionedd, mae’r enw’n tarddu o’r Norseg, iaith y Llychlynwyr. Mae’n debyg ei fod yn coffáu ynys ('ey') gŵr o’r enw Sveinn.

Gall enwau lleoedd Cymraeg fod yn rhesymegol iawn!"

Ar ben arall y wlad, mae’n debyg i Anglesey gael ei henwi ar ôl Llychlynnwr arall o’r enw Ongull. Ond yn Gymraeg, wrth gwrs, yr enw yw Môn. Ac Arfon (yn llythrennol, ‘gyferbyn â Môn’) yw enw’r tir mawr dros y Fenai. Prif dref Arfon yw Caernarfon, yn gynharach Caerynarfon (‘y gaer yn y tir gyferbyn â Môn’). Gall enwau lleoedd Cymraeg fod yn rhesymegol iawn!

Er hynny, rydym ni yng Nghymru yn ymwybodol ers amser maith y gall ein henwau lleoedd beri penbleth i ymwelwyr. Ac mae ambell un wedi manteisio ar hynny! Yng nghanol y 19eg ganrif, aeth siopwr o Lanfair Pwllgwyngyll ym Môn ati i geisio tynnu sylw at y dref fach ar y rheilffordd newydd. Daeth i’r casgliad y byddai enw ynfyd o hir yn denu’r twristiaid, a lluniodd y ffurf estynedig Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwll-llantysiliogogogoch
(‘Eglwys y Santes Fair ger pwll y coed cyll gwyn ger y trobwll chwyrn ac eglwys Sant Tysilio o’r ogof goch’). Ac fe lwyddodd y tric. Mae’r enw bellach yn ymddangos ar arwydd sy’n denu ymwelwyr o bedwar ban byd.

Darlun o Eglwys
Llan, yn golygu lle gydag Eglwys.

Ymhlith ymwelwyr cynharach â gogledd Cymru yr oedd yr Eingl-Sacsoniaid, hynafiaid y Saeson. Daeth rhai ohonynt i’r hyn sydd bellach yn Sir y Fflint gan enwi un man yn Preosta-tun ‘fferm yr offeiriaid’. Yn Swydd Gaerhirfryn, mae’r un enw'n union yn ymddangos mewn Saesneg modern fel Preston. Ond yng Nghymru, cadwodd patrymau ieithyddol y Gymraeg yr enw ar ffurf sydd llawer yn nes at y gwreiddiol Eingl-Sacsoneg — Prestatyn.

Mewn mannau eraill, cafodd enwau Cymraeg eu newid trwy gael eu benthyg i’r Saesneg. Er enghraifft, mae’r enw Dinbych (‘y gaer fach’) yn cynnwys y sain ch a ddiflannodd o’r iaith Saesneg rai canrifoedd yn ôl. Felly mae’r ddau le sydd â’r enw Dinbych yn Gymraeg wedi rhoi’r ffurfiau Saesneg Tenby yn Sir Benfro a Denbigh yn Sir Ddinbych (sy’n odli â’i gilydd, er gwaethaf y sillafu gwahanol). Ac er mwyn osgoi dryswch yn y Gymraeg, mae Tenby, sy’n dref ar lan y môr, yn cael ei galw’n Dinbych-y-pysgod.

Darlun o rhid
Rhyd, ystyr lle gyda rhyd, sef lle bas mewn afon.

Weithiau, gall enwau Cymraeg fod yn gamarweiniol hyd yn oed i siaradwyr Cymraeg. Ar yr olwg gyntaf, mae ystyr Cwmrhydyceirw ger Abertawe yn amlwg. Ond dim ond yn y 19eg ganrif yr ymsefydlodd yr enw swynol hwnnw. Mae ffynonellau cynharach yn dangos mai ei ffurf wreiddiol oedd Cwmrhydycwrw. Cafodd yr elfen derfynol cwrw ei disodli’n barhaol gan ceirw — efallai ar sail dyheadau dirwestol rhai o’r trigolion. Ond mae gan y pentref ei dafarn ei hun hyd heddiw. Ei henw yw ‘The Deer’s Leap’!

 Darlun o bont
Pont, yn golygu lle gyda phont dros afon.

Yn olaf, deuwn at enwau’r wlad ei hun. Mae’r enw Saesneg, Wales, yn deillio o air Eingl-Sacsoneg sy’n golygu ‘estroniaid’, neu yn arbennig yr estroniaid hynny a oedd dan ddylanwad yr ymerodraeth Rufeinig. Cymru yw enw Cymraeg y wlad, sef yr un gair â Cymry, ffurf luosog Cymro. Credir bod Cymro yn deillio yn ei dro o hen air Brythoneg: combrogos (‘cyd-wladwr’).

A’r Gymraeg, yr iaith a siaredir gan ddisgynyddion y ‘cyd-wladwyr’ hyn, sydd wedi cyfrannu mwy nag unrhyw iaith arall at gyfoeth diwylliannol enwau lleoedd Cymru.

Straeon cysylltiedig