Mae bron yn amhosibl dewis llond llaw o eitemau'n unig i gynrychioli cenedl a'i holl hanes. Mae gan y saith sefydliad sy'n ffurfio Amgueddfa Genedlaethol Cymru filoedd o arteffactau addas a chymwys, o beintiadau argraffiadwyr gwych yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, i adeilad hanesyddol Sefydliad y Gweithwyr a drosglwyddwyd fric wrth fric i Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru. Fodd bynnag, dyma ein dewis ni o 10 gwrthrych i gynrychioli diwylliant a chymeriad Cymru.

Maiden blodau Blodeuwedd
Blodeuwedd, y ferch a wnaed o flodau

Llyfr Coch Hergest

Er iddo gael ei enwi ar ôl lle yn Lloegr - Llys Hergest yn Swydd Henffordd, ble y goroesodd drwy Oes Elisabeth - y Llyfr Coch yw llawysgrif ganoloesol bwysicaf y Gymraeg. Mae’n fwyaf adnabyddus am gynnwys y Mabinogion, casgliad o’r rhyddiaith Gymraeg cynharaf. Mae’r straeon yn cyflwyno casgliad cyfoethog o gymeriadau gan gynnwys sawl menyw arbennig o gryf. Cawn gwmni Blodeuwedd, morwyn y blodau (a droir yn y pen draw yn dylluan am fradychu ei gŵr, Lleu Llaw Gyffes), y farchoges arbennig Rhiannon, a Branwen, y dywysoges sy’n achosi dinistr dwy genedl oherwydd ei phriodas anhapus. Erbyn i gopïwr ysgrifellu’r chwedlau’n ofalus ar y memrwn tua diwedd y 14eg ganrif, byddai’r straeon eisoes yn rhai canrifoedd oed; ond mae’u themâu - llofruddio, torcalon, uchelgais a cholled - yn dragwyddol.

Pi mafon
Y Raspberry Pi, a weithgynhyrchwyd ym Mhencoed, ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Raspberry Pi

Ym mis Gorffennaf 2017, ymddangosodd y 10 miliynfed Raspberry Pi o’i leoliad cynhyrchu ym Mhencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr. Yr uned rad, maint cerdyn credyd yw’r gwerthwr gorau erioed o blith cyfrifiaduron a gynlluniwyd ym Mhrydain (ac o bob cyfrifiadur yn y byd, mae’n drydydd y tu ôl i Apple Mac a’r hollbresennol PC). Cynhyrchwyd y Pi yn wreiddiol yn China, tan i’r sylfaenydd Eben Upton symud y gweithgynhyrchu i Ganolfan Dechnoleg Sony UK ym Mhencoed yn 2012, gan ganmol ei “safonau gweithgynhyrchu digymar”.

Cloc cyfnewid glo
  Cloc o'r Gyfnewidfa Lo

Clociau llanw’r Gyfnewidfa Lo

Roedd Caerdydd yn un o borthladdoedd pwysicaf y byd tua dechrau’r 20fed ganrif, a’r Gyfnewidfa Lo oedd ei chalon fyw. Yn y cyntedd roedd dau lew pren ar bileri, pob un yn gwylio dros gloc a osodwyd i amser llanw uchel y ddinas yn y bore a’r prynhawn – gwybodaeth hanfodol i fasnachwyr ar y llawr gwerthu. Mae’r clociau a gerfiwyd mor gain yn dyst i adeg pan oedd amser a llanw Caerdydd yn teyrnasu dros y byd.

 Cwpan Nanteos
Cwpan Nanteos a'i phwerau iacháu goruwchnaturiol.

Cwpan Nanteos

Ai’r Greal Sanctaidd sy’n cuddio yn yr amlwg yn Aberystwyth? Ac yntau bellach yn rhan o arddangosfa barhaol yn y Llyfrgell Genedlaethol, hawliwyd ar un adeg fod gan Gwpan Nanteos rymoedd goruwchnaturiol i wella pobl. Honnai’r selogion yng nghefn gwlad Ceredigion mai crair a wnaed o bren y Gwir Groes ydoedd, a fu ynghudd am ganrifoedd yn Abaty Ystrad Fflur. Dengys gwaith dadansoddi erbyn hyn, braidd yn anghyfleus, mai powlen fwyta a wnaed o bren llwyfen lleol ydyw, tua 1,400 o flynyddoedd ar ôl geni Crist. Ond daliodd y chwedlau’u tir yn rhyfeddol, gan arwain at sawl pennawd papur newydd am ‘chwilio am y Greal Sanctaidd’ pan gafodd y gwrthrych ei ddwyn (a’i adfer yn ddigon buan) yn 2014.

Cenhinen bedr
Cenhinen Bedr

Cenhinen – neu genhinen Pedr?

All neb wadu harddwch ffiol o gennin Pedr, tra bo llai o fynd ar gennin mewn paentiadau o fywyd llonydd. Ond o ran symbolau Cymreig, y blodyn yw’r ymwthiwr, os rywbeth. Dim ond yn raddol y cafodd ei fabwysiadu fel symbol amgen oherwydd tebygrwydd y ddau enw, a achosodd ddryswch rhwng y genhinen a fwyteir mewn cawl a’r genhinen Bedr sy’n pefrio’n aur yn y gwanwyn.

Enghraifft o fap Cambriae Typus
  Darlun o'r map Cambriae Typus, a dynnwyd yn wreiddiol gan Humphrey Llwyd yn 1573

Cambriae Typus

Efallai bod Cymru wedi cael ei gweld ar fapiau cyn hyn, ond y Cambriae Typus o 1573 oedd y cyntaf i ddangos ein gwlad fel cenedl ar wahân i weddill Prydain. Gwaith llaw Humphrey Llwyd, ysgolor, casglwr a gwleidydd o Ddinbych oedd y map. Erbyn heddiw, fyddai neb yn eich cynghori i’w ddefnyddio yn lle llywiwr lloeren: ymhlith sawl gwall ar y map y mae'n hepgor Penrhyn Gŵyr yn llwyr! Ond gan fod arno gofnod o enwau lleoedd yn Gymraeg, Saesneg a Lladin, mae’n gofnod amhrisiadwy o Gymru’r Dadeni.

Gall enghraifft o'r cwrw Felinfoel
Gall cwrw Felinfoel, a gynhyrchwyd gyntaf yn 1935.

Tun cwrw Felinfoel

Cwrw mewn tun? Cyffredin heddiw, ond yn hollol ddieithr i bobl Prydain yn ôl yn 1935. Dyna pryd y cynhyrchwyd y cyntaf ym Mragdy Felinfoel, Llanelli, gan berchnogion oedd yn feistri tun yn ogystal â bod yn fragwyr. Fe feddylion nhw am y syniad o orchuddio tu mewn i'r tun â gorchudd gŵyr er mwyn atal y cwrw rhag dwyn blas y metel. Roedd yfwyr wrth eu bodd, ac roedd yn lles mawr i dra-rhagoriaeth diwydiant tun de Cymru hefyd: yn 1945, roedd dros 300 o felinau tun yn dal i weithio yn y rhanbarth.

Llun o belen cnapan pren
Pêl cnapan

Pêl cnapan

Os ydych chi’n meddwl am rygbi fel gêm gorfforol, rhowch gynnig ar y cnapan. Mae’r cofnod cynharaf amdano’n deillio’n ôl i’r nawfed ganrif a Historia Britonum, dogfen o hanes Prydain gan y mynach o Gymru, Nennius. Bwriad y gêm oedd cynnwys holl boblogaeth wrywaidd dau bentref wrth iddyn nhw ymladd i ddwyn pêl bren galed a’i chludo adref. I ychwanegu diddordeb, gellid berwi’r bêl dros nos mewn braster er mwyn ei gwneud yn llithrig eithriadol. Er mor dreisgar a di-drefn oedd y gêm, ystyrir mai dyma gyndad pêl-droed a rygbi modern – ac yn ôl rhai, gwelwyd fersiynau cyntefig o’r sgrym a’r lein yn rhan ohoni.

Llun o Jemima Fawr
Jemima Nicholas, a elwir hefyd yn 'Jemima Fawr'

Cofeb Jemima Fawr

Brwydr Abergwaun yn 1797 oedd y tro diwethaf i fyddin o oresgynwyr lanio ar dir Prydain. Ar ôl dod i’r lan ger y dref yn Sir Benfro, dechreuodd y criw didoreth o Ffrancwyr ddwyn o ffermdai, gan feddwi ar win a ddygwyd o’r tai. Aeth Jemima Nicholas, gwraig 47 oed a oedd yn briod â chrydd, allan i’r caeau â phicfforch, gan gasglu 12 o’r milwyr ar ei phen ei hun,a'u cloi mewn eglwys tan iddyn nhw ildio. Enillodd y weithred iddi’r llysenw Jemima Fawr, ynghyd â charreg goffa yn Eglwys y Santes Fair yn Abergwaun.

Llun o gwestiynau Apollo
Llong ofod Apollo

Y gell danwydd

Pan aeth dyn i’r Lleuad am y tro cyntaf yn 1969, aeth darn o ddyfeisgarwch o Gymru gyda’r tri gofodwr o NASA. Cynhyrchwyd ynni trydan a dŵr yfed roced Apollo gan gelloedd tanwydd, sy’n cyfuno hydrogen ac ocsigen mewn adwaith electrocemegol dan reolaeth. Dyma gymhwysiad a ddisgrifiwyd am y tro cyntaf yn 1838 gan y ffisegydd a’r bargyfreithiwr o Gymru, William Grove, a lwyddodd i greu prototeip oedd yn gweithio brin dair blynedd yn ddiweddarach.

 

Darllen pellach: I gael golwg arall ar ein treftadaeth – a 10 gwaith yn fwy o greiriau, gan gynnwys rhai sy’n cyd-fynd â’n dewisiadau ni – rydym ni’n argymell y llyfr Cymru mewn 100 Gwrthrych gan Andrew Green.

Straeon cysylltiedig