Dyma brototeip sy’n cyfuno technoleg werdd â pheirianneg ceir moethus. Mae’r enw’n cyfeirio at yr ymadrodd Lladin tabula rasa, a gyfieithir fel arfer i olygu 'llechen lân', ond mae amlinell y car hwn yn ddyledus iawn i geir rasio clasurol y gorffennol. Mae ganddo ddrysau sy’n codi fel adenydd hyd yn oed, gan adlewyrchu modelau eiconig fel y Mercedes-Benz 300SL a’r DeLorean DMC-12 a anfarwolwyd yn Back to the Future.

Gobaith Hugo Spowers, sylfaenydd a phrif beiriannydd Riversimple, yw dechrau chwyldro mewn moduro cynaliadwy o’i bencadlys yn Llandrindod, Powys. Meddai ef: "Mae’r diwydiant ceir wedi bod yn llwyddiannus iawn ers dros 100 mlynedd, ond dyw’r car modur ddim yn ffit i’w bwrpas mwyach. Fe wnaethon ni ddechrau â dalen lân o bapur, gan ddychmygu pwynt cynaliadwyedd yn y dyfodol, a gweithio’n ôl o’r fan honno."

Hugo Spowers, Riversimple, Car Hydrogen
Agos allanol yn Riversimple Rasa Car
Hugo Spowers, sylfaenydd a phrif beiriannydd Riversimple a golwg ar flaen y Riversimple Rasa

Mae’r Rasa’n gynnyrch Cymreig balch, a’r car cyntaf i ddeillio’n llwyr o Gymru ers i’r coupés Gilbern slic olaf ddod oddi ar y llinell gynhyrchu ym Mhontypridd ar ddechrau’r 1970au. Mae’n addas bod y dechnoleg sy’n sail i’r car hwn yn gallu olrhain ei achau i waith Syr William Grove, y gwyddonydd a anwyd yn Abertawe a gynhyrchodd drydan â chell hydrogen am y tro cyntaf yn yr 1840au.

Dadorchuddiwyd y Rasa cyntaf i’w gynhyrchu yn 2016, ac mae rhediad cychwynnol o 20 Rasa wedi bod yn cael eu profi. Er mai ar gyfer y ddinas yn hytrach na’r gefnffordd agored y bwriadwyd y car, mae modd gwneud tua 480km (300 milltir) ar danc llawn o hydrogen, a does dim byd dioglyd amdano. Gall y Rasa gyrraedd ei gyflymder uchaf o 95km/h (60mph) mewn naw eiliad a hanner.

Golygfa Rear, Allanol, Riversimple Rasa Car
llywio tu mewn i riversimple rasa hydrogen car
Y Riversimple Rasa o'r cefn a golwg agos ar y tu mewn.

Efallai na ddylai fod yn sioc fod perfformiad y car yn danllyd. Dechreuodd Hugo’i yrfa yn y byd rasio ceir, gan gystadlu yn ras 24 awr Le Mans unwaith. "Mae’n llawer o hwyl ar y ffyrdd cefn gwlad hyn," meddai. "Mae’n gar hawdd a llyfn i’w yrru, heb ddim gêrs, a theimlad ysgafn ganddo. Does dim angen llyfr cyfarwyddiadau arnoch chi."

Cynlluniwyd y Rasa i fod yn ysgafnach na char batri, ac mae’n gofyn am lai o ynni. "Rwy’n rhoi’r clod i Elon Musk am roi ysgydwad i’r diwydiant gyda Tesla, ond ateb dros dro yw ceir trydan mewn gwirionedd," meddai ef.

teiars ceir yr ymyl riversimple logo
Riversimple Rasa
Logo Riversimple a'r drysau sy'n codi fel adenydd.

Y bwriad yw codi at lefel gynhyrchu flynyddol o 5,000 Rasa o 2021 ymlaen, a gobaith y cwmni yw cyflogi rhyw 220 o bobl – a phob un bron o’r gymuned leol. Ac i unrhyw un sydd ddim yn gallu aros i gael ei ddwylo ar y llyw, mae’n werth gwybod fod Riversimple yn rhoi cynnig ar ddull amgen o werthu’r cerbydau.

Bydd prynwyr yn arwyddo cytundeb gwasanaeth, gan dalu swm misol (tua £370) a ffi fechan am bob milltir a deithir. Mae disgwyl y bydd rhedeg y Rasa yr un mor economaidd â bod yn berchen ar gar diesel salŵn bach.

Nod hirdymor Hugo yw dileu effaith amgylcheddol niweidiol gyrru, nid cyfrannu at leihad cymedrol yn unig. Mae’n tynnu sylw at y ffaith fod y diwydiant ceir wedi bod yn araf i gofleidio newidiadau, wrth i gerbydau trydan gyfrif am lai na 2% o bob car newydd a werthir. Ond wrth i’r DU a Ffrainc gyhoeddi’u bwriad i ddwyn i ben gwerthu ceir petrol a diesel newydd erbyn 2040, mae newid mawr ar y gweill – ac, yn ei farn ef, dyma gyfle i Gymru arwain y byd.

Yn gyffredinol, un rhan yn unig o weledigaeth fawr Hugo am ddyfodol cynaliadwy i drafnidiaeth ar raddfa eang yw’r Rasa. Meddai ef: "Mae gormod o geir, gormod o dagfeydd a dim digon o fuddsoddi mewn trafnidiaeth ar raddfa eang. Ond nid gwahardd ceir yw’r ateb – mae’n ymwneud â meithrin mwy o gyfle i gynnig sawl ateb gwahanol."

Riversimple Rasa
Ochr draw i'r Riversimple Rasa

Straeon cysylltiedig