Ynglŷn â Chymru
A yw Cymru’n wlad?
Er bod Cymru’n rhannu ffin â Lloegr, ac yn rhan o Brydain Fawr, mae Cymru’n wlad ynddi’i hun.
Ar 18 Medi 1997, pleidleisiodd pobl Cymru o blaid datganoli yng Nghymru. Rhoddodd hyn yr hawl i Gymru wneud is-gyfreithiau eilaidd sy’n effeithio arnom yn ôl Deddf Llywodraeth Cymru 1998. Yn 2006, rhoddodd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 bwerau ychwanegol i Gymru.
Darllenwch fwy am Gymru yn adran 'Ynglŷn â' y wefan.
Ymweld â Chymru
Beth ydy’r gwahanol ffyrdd o gyrraedd Cymru?
Mae cysylltiadau da rhwng Cymru a gweddill y DU yn ogystal ag Iwerddon a thir mawr Ewrop, boed hynny ar y ffordd, y rheilffordd, ar y môr neu drwy’r awyr.
Darllenwch ein canllaw i dderbyn gwybodaeth gynhwysfawr ynglŷn â theithio i Gymru.
Os ydych yn byw tu allan i’r DU mae’n bosib y byddwch angen fisa o’r DU er mwyn ymweld a Chymru. Mae Cymru yn rhan o’r Deyrnas Unedig ac o’r system visa a mewnfudo sy’n gweithredu ar draws y DU. Ewch i wefan Llywodraeth y DU am wybodaeth bellach, lle gewch ganllawiau uniongyrlchol ynglŷn ag ymweld a’r DU ar ôl Brexit.
Rwyf yn byw dramor fel arfer ond ar hyn o bryd rwy’n gweithio/astudio yn Lloegr/yr Alban a hoffwn ddod i Gymru ar daith diwrnod/am wyliau - a oes angen visa ychwanegol arnaf?
Nid oes angen visa ychwanegol. Gallwch ymweld â Chymru cyn belled â bod dyddiadau eich visa yn ddilys. Caiff visas eu rhoi i’r Deyrnas Unedig gyfan. Nid oes rheolau croesi ffiniau rhwng Lloegr a Chymru.
Os ydych yn bwriadu hedfan i Gymru o rannau eraill o’r DU, bydd angen i chi ddangos dogfen adnabod gyda ffotograff cyn gallu mynd ar eich taith.
Darllenwch fwy am ymweld â Chymru yn adran 'Ymweld' y wefan.
Byw, Gweithio ac Astudio yng Nghymru
Rwyf eisiau astudio yng Nghymru. Alla i wneud cais?
Ewch i Astudio yng Nghymru am ragor o wybodaeth am brifysgolion yng Nghymru.
Alla i ddod i fyw yng Nghymru?
Mae Cymru yn wlad groesawgar a gobeithiwn fod y wefan hon yn cynnig ysbrydoliaeth a gwybodaeth i chi ynghylch byw a gweithio yng Nghymru, yr economi, ein diwylliant a gwybodaeth am ein cymunedau unigryw.
Os ydych yn byw tu allan i’r DU mae’n bosib y byddwch angen fisa o’r DU er mwyn ymweld a Chymru. Mae Cymru yn rhan o’r Deyrnas Unedig ac o’r system visa a mewnfudo sy’n gweithredu ar draws y DU. Ewch i wefan Llywodraeth y DU am wybodaeth bellach, lle gewch ganllawiau uniongyrlchol ynglŷn ag ymweld a’r DU ar ôl Brexit.
Rydw i eisiau sefydlu Busnes yng Nghymru / ehangu fy musnes yng Nghymru – allwch chi helpu?
Mae yna nifer o resymau gwych dros sefydlu neu ehangu eich busnes yng Nghymru.
Mae gwybodaeth bellach ar gael ar ein gwefan o fewn yr adran ar yr Economi. Dewis arall fyddai mynd i wefan Trade and Invest Wales am fanylion pellach.
Hoffwn gymorth ariannol personol – allwch chi helpu?
Ewch i dudalennau we Ysgoloriaethau Astudio yng Nghymru am fanylion o’r math o gymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol.
Os ydych yn rhedeg busnes, efallai eich bod yn gymwys am gymorth busnes; ewch i wefan Busnes Cymru am ragor o fanylion.
Hoffwn wneud cais am swydd yng Nghymru, beth sydd angen i fi ei wneud?
Mae yna amrywiaeth eang o swyddi yng Nghymru, o gwmnïau amlwg ym maes Gwyddorau Bywyd a Thechnoleg, i arloeswyr ym maes Ynni a’r Amgylchedd a Thwristiaeth. Mae mwy o wybodaeth am ein diwydiannau allweddol ar wefan Trade Invest Wales.
Os ydych yn byw tu allan i’r DU, efallai y bydd arnoch angen visa i’ch galluogi i weithio yng Nghymru.
Mae Cymru yn rhan o’r Deyrnas Unedig ac o’r system visa a mewnfudo sy’n gweithredu ar draws y DU. Ewch i wefan Llywodraeth y DU am wybodaeth bellach, lle gewch ganllawiau uniongyrlchol ynglŷn ag ymweld a’r DU ar ôl Brexit.
I gofrestru anhawster neu broblem gyda’r wefan
Os ydych chi wedi cael anhawster wrth ddefnyddio ein gwefan, cysylltwch â ni dros e-bost os gwelwch yn dda, gan gynnwys disgrifiad o’r broblem, dolen i’r dudalen benodol, enw a fersiwn eich porwr gwe a system gweithredu eich dyfais.