Bu cynaliadwyedd yn flaenoriaeth ers sawl blwyddyn. Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno tâl am fagiau plastig yn ôl yn 2011. Mae polisi cael statws diwastraff erbyn 2050 wedi dal dychymyg busnesau ledled y wlad.

Mae Psyched Paddleboarding, Natural Weigh a ripple yn enghreifftiau o fusnesau ar draws Cymru sy'n arloesi ffyrdd o fyw mwy cynaliadwy.

I’r de o’r Mynyddoedd Duon yn nhref hardd Crucywel, ysbrydolwyd Chloe a Rob Masefield i sefydlu Natural Weigh, siop diwastraff gyntaf Cymru, pan sylweddolon nhw nad oedd cyfle gan bobl i siopa’n lleol heb ddefnyddio pecynnu plastig.

Mae Natural Weigh yn gwerthu popeth o greision ŷd i de brecwast Cymreig, ac o hylif golchi llestri i olew hadau rêp lleol. Mae’r cysyniad yn syml: dewch â’ch pethau eich hunain i ddal y cynnyrch, a phrynwch faint yn union sydd ei angen arnoch chi.

"Mae tua hanner ein cwsmeriaid yn bobl leol, ac maen nhw wrth eu boddau o weld siop ble gall pobl brynu’r hanfodion," meddai Chloe Masefield. "Mae’n ffordd hollol newydd o siopa, felly rydym ni’n ceisio bod yn hygyrch ac yn gyfeillgar. Byddwn ni’n gofyn bob amser i gwsmeriaid newydd a ydyn nhw angen help llaw. Rydym ni eisiau’i gwneud hi mor hawdd â phosib i bobl gyflawni’r newid yna."

Mae’r pwyslais ar gynaliadwyedd y tu ôl i’r cownter hefyd. Gwnaed celfi’r siop o bren wedi’i ailgylchu’n llwyr, fel byrddau sgaffaldiau a phaledi, a daw eu trydan oddi wrth ddarparwr ynni glân. Mae cymaint â phosib o’r stoc yn cael ei gynhyrchu’n foesol a’i ffynonellu’n lleol.

Mae cysyniad diwastraff hefyd yn cael ei arloesi Caerdydd gan 'ripple' – siop diwastraff dielw sy’n ffrwyth dychymyg Sophie Rae. Cododd ei hymgyrch Kickstarter y swm anhygoel o £33,312 mewn 12 niwrnod yn unig. "Gwn nad ydw i ar fy mhen fy hun o fod eisiau cyfrannu at fyd glanach a thecach," meddai hi. "I mi, fe ddechreuodd pethau drwy wneud newidiadau bychain, a dyfodd. Dyna effaith tonnau ‘ripple’. Pan fydd un person yn sefyll dros y gwerthoedd, gall un arall ddilyn."

Mae Sian Sykes yn gwybod popeth am effaith tonnau, yn y môr ac mewn cymdeithas. Hi yw sylfaenydd Psyched Paddleboarding, cwmni sy’n darparu profiadau padlfyrddio (SUP) o ansawdd uchel o gwmpas Eryri a Môn.

Yn ddiweddar, cwblhaodd hi’r daith unigol gyntaf o gwmpas Cymru ar SUP heb gefnogaeth, a hynny ar hyd y camlesi, afonydd a dyfroedd arfordirol. Er mwyn codi ymwybyddiaeth o lygredd plastig, ymgymerodd â’r daith gyfan heb ddefnyddio plastigau un-defnydd, ac mae’i busnes yn rhedeg ar yr un egwyddor.

"Craidd ein busnes yw darparu safon uchel o ansawdd, ond hefyd i fod yn gyfrifol am ein hamgylchedd," meddai hi. “Dim ond byrddau rhwyfo Starboard fyddwn ni’n eu defnyddio, er enghraifft. Am bob bwrdd a brynir, maen nhw’n plannu coeden i wrthbwyso’r allyriadau carbon. Mae rhwyfau’n cynnwys bachau casglu sbwriel, mae bagiau’n cael eu gwneud o rwydi pysgota a ailgylchwyd, a phapur a chardfwrdd yw’r holl becynnu."

Fel busnesau, mae angen i bob un ohonom ni feddwl sut y gallwn ni dod o hyd i ddewisiadau amgen sy’n gallu gwrthsefyll y dyfodol. Mae momentwm yn cynyddu, ond mae angen i ni wneud mwy o hyd."

Mae’r busnes hefyd yn fywiog yn y gymuned. Mae Sykes yn gynrychiolydd rhanbarthol dros Surfers Against Sewage (SAS), gan drefnu i lanhau traethau a gwthio i roi statws “rhydd o blastig un defnydd” i Ynys Môn. Mae’r cyfan yn rhan o’i swydd, meddai hi, i addysgu cleientiaid am leihau’u defnydd o blastig.

"Rydw i’n gofyn i bob un o’m cleientiaid ddod â photel y gellir ei defnyddio dro ar ôl tro, a byddaf yn pwysleisio pam fy mod am iddyn nhw wneud hynny," meddai hi. "Os ydyn nhw allan ar lyn hardd ac maen nhw’n gweld potel blastig yn arnofio heibio, mae’n peri i’r broblem ddod yn fyw iddyn nhw. Bydda i’n gofyn iddyn nhw: beth yw eu haddewid? Beth allwch chi ddefnyddio llai ohono?"

Mae’r busnesau hyn yn tystio i’r ffaith na lwyddir i ennill y ras at ddyfodol diwastraff yng Nghymru drwy gyfrwng polisi goleuedig y llywodraeth yn unig, ond drwy fentrau llawr gwlad gan bobl â buddsoddiad yn y gymuned leol.

"Fel busnesau, mae angen i bob un ohonom ni feddwl sut y gallwn ni dod o hyd i ddewisiadau amgen sy’n gallu gwrthsefyll y dyfodol," meddai Sian. “Mae momentwm yn cynyddu, ond mae angen i ni wneud mwy o hyd."

Straeon cysylltiedig