A ble allwch chi sefyll ar gopa cilomedr o uchder i gael golygfa o bedair gwlad wahanol, caiacio drwy donnau Atlantic â neb ond y morloi’n gwmni, a phrofi gwledd seren Michelin i swper cyn cerdded gartref dan awyr glir llawn sêr – i gyd mewn un diwrnod?

Croeso i Gymru. 

Croeso i Gymru, gwlad ar gyrion gorllewinol Prydain. Mae gennym ni hanes hynafol, tirwedd brydferth, a baner hynod o smart. Honno â draig goch arni. Rydym ni’n bobl gyfeillgar hefyd, ac rydym ni wrth ei boddau yn cynnig croeso cynnes. (Ac mae ein croeso yn enwog – pan mae sôn am Gymru mewn deunyddiau ysgrifennu taith lle crynhoir rhestr o’r cyrchfannau gorau, caiff ein lletygarwch ei ganmol llawn cymaint â’n golygfeydd prydferth.) I’r rheiny sy’n aros yn hirach, mae cyfle i fwynhau cydbwysedd bywyd-gwaith i genfigennu wrtho, mewn cymuned glos â digonedd o ddewis o weithgareddau i lenwi’ch amser hamdden.

Er bod Cymru’n rhan o’r Deyrnas Unedig, rydym ni’n wahanol i’n cyfeillion yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Rydym ni’n siarad iaith farddonol sy’n wahanol i’r Saesneg, ac sy’n dipyn hŷn. Mae gan y Gymraeg harddwch telynegol sy’n dal gwir ysbryd Cymru. Rydym ni’n defnyddio dipyn o Gymraeg ar y wefan hon, ond byddwn ni’n cyfieithu popeth i’r Saesneg fel bod modd i unrhyw un werthfawrogi gorfoledd barddonol yr iaith.

Mae Cymru’n wlad falch. Rydym ni’n rhan o’r Deyrnas Unedig ond hefyd yn wlad yn ein hawl ein hunain, â llywodraeth ddatganoledig a Senedd sy’n pasio ei deddfau ei hun. Mae oddeutu 3.1 miliwn o bobl yn byw yma, mewn gwlad o amrywiaeth daearyddol anhygoel. Mae tua chwater Cymru, o’r môr i’r mynyddoedd, wedi ei ddynodi’n Barc Cenedlaethol neu Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Yn Nghymru, mae gennym ni ddywediad. Gwnewch y pethau bychain.

Dydi gwneud pethau da erioed wedi bod yn bwysicach. Felly rydym ni’n gwneud pethau da – dros ein gilydd, dros y wlad, a thros y byd. Mae pobl o amgylch y byd yn awchu am ffyrdd gwell, mwy cynaliadwy o fyw, gweithio, teithio, dysgu a gwneud busnes.

Roedd Dewi Sant, nawddsant Cymru, yn credu mewn gwneud pethau bychain er mwyn gwneud newid mawr. Dydi’r dweud hwnnw erioed wedi bod yn fwy perthnasol, ac fe fagodd arwyddocâd pellach i bobl ar draws y byd yn ystod pandemig y Coronafeirws, gyda nifer o bobl yn gwneud pethau da i helpu eraill, a dod o hyd i lawenydd ym mhleserau syml bywyd.

Addo. Mae ein diwydiannau, ein cymunedau a’n hardaloedd yn barod i sicrhau bod Cymru yn lle diogel. Rydym ni’n gofyn i bobl fuddsoddi’n emosiynol yn y wlad a dangos eu bod nhw’n poeni hefyd fel ein bod ni i gyd yn chwarae ein rhan yn gofalu am ein hunain ac am eraill. Bydd gwneud pethau bychain sy’n cyfri yn gwneud gwahaniaeth mawr i ni allu eich croesawu chi’n ôl i Gymru pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.

Os ydych chi’n ystyried teithio grŵp rhyngwladol eto, gallwch chi ymweld â’n gwefannau Travel Trade a Business Events am ragor o wybodaeth a chefnogaeth, ac wrth i’ch cleientiaid baratoi i grwydro Cymru, rydym ni’n eich annog chi i rannu’r addewid gyda nhw, i ofalu am ein gilydd ac am y lle arbennig hwn rydym ni’n ei alw’n gartref.

cefn pennau pump o bobl wedi'i hamlapio mewn blanced liwgar gyda'r môr yn y cefndir.
Portmeirion, Gwynedd, Gogledd Cymru

Mae creadigrwydd wrth galon bywyd yng Nghymru. Mae beirdd a chantorion yn cael lle amlwg yn ein hanthem wedi’r cwbl. Ond maen nhw’n talu am y fraint honno drwy gario enw da Cymru yn bell. Dyna Dylan Thomas, Roald Dahl a Jan Morris – neu Shirley Bassey, Bryn Terfel, Rebecca Evans a’r Manic Street Preachers, i enwi rhai.

Ac nid dyna ddiwedd ar y creadigrwydd yma chwaith. Cymru roddodd i’r byd batrymau blodeuog Laura Ashley, ail-wynt Russell T Davies o Doctor Who, paentiadau tirweddol Kyffin Williams a pherfformiadau sgrin Anthony Hopkins, Luke Evans, Michael Sheen a Catherine Zeta-Jones.

Tad a mab yn archwilio gyda'i gilydd ar draeth creigiog
Luke Evans yn cerdded i blanhigyn bach ar ddiwedd ponŵn trwy niwl
Richard Parks-ar feic yn Abermaw wrth i'r haul ddechrau gosod
Anturiaethau yng Nghymru

Mae gan Gymru ben busnes – ac mae i greadigrwydd ei ran yn hynny hefyd. Rydym ni wedi bod yn genedl lle mae arloesi a mentro yn mynd law yn llaw erioed, ac nid yw syniadau’n aros ar bapur am yn hir. Mae’r dyfeisiadau Cymreig yn cynnwys y pêl-feryn, y meicroffon, ffotograffiaeth dwfn i’r gofod a’r gell tanwydd hydrogen - heb sôn am y cysyniad ‘cyfnewid pecynnau’ a wnaeth y rhyngrwyd yn bosibl, a hyd yn oed yr arwydd ‘hafal’ mewn mathemateg. Heddiw mae gennym ni brifysgolion o safon rhyngwladol a gweithlu medrus: mae 30 y cant o’r boblogaeth yn raddedigion.

Mae gallu manteisio ar y talentau parod yma yn un rheswm pam fod busnesau yn dod i Gymru i dyfu a darganfod eu potensial. Mae mynediad rhwydd at rai sy’n gwneud penderfyniadau yn reswm arall. Ac mae cynaliadwyedd ar frig yr agenda busnes. Ni oedd y genedl gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno cost am fagiau plastig un-tro. Mae ein polisïau economaidd yn hyrwyddo a gwobrwyo arfer dda o ran yr amgylchedd, ac mae gennym ni dargedau uchelgeisiol i leihau gwastraff a lleihau ôl troed carbon diwydiannol.

Jack Abbot yn gorwedd ar fwrdd syrffio wrth i haul osod yn aros i ddal ton
Jack Abbott syrffio

Mae’r iaith Gymraeg yn rhan o fywyd bob dydd. Caiff ei siarad gan fwy na hanner miliwn o bobl, caiff ei dysgu mewn ysgolion a’i dathlu mewn gwyliau fel yr eisteddfodau sy’n uchafbwynt calendr diwylliannol Cymru. Fe welwch chi’r iaith mewn enwau lleoedd ac ar arwyddion ffordd, fe glywch chi hi ar sianeli teledu a radio. Mae’r sîn gerddoriaeth Gymraeg yn ffynnu, ac mae ffilmiau a rhaglennu teledu Cymraeg yn gwneud eu marc dros y ffin.

Mae’r iaith yn rhan o’n treftadaeth fyw – ac yng Nghymru mae treftadaeth yn rhywbeth sy’n gwrthod cael ei gadw mewn amgueddfeydd neu rhwng cloriau llyfrau llychlyd. Lle bynnag y trowch chi, fe welwch chi arwyddion sy’n pwyntio at hanes cyfoethog a chymhleth, yn olion gwersylloedd Rhufeinig neu ystadau gwledig crand wedi eu hadeiladu gan uchelwyr a diwydianwyr. Cymru oedd pwerdy’r Chwyldro Diwydiannol, crud y mudiad hawliau gweithwyr a man geni’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Maen nhw i gyd yn destun balchder mawr i ni yma.

Golwg agos o'r ARWYDDBOST Cymraeg yn pwyntio at yr atyniadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Caerydd flame sculpture arch outside the Millenium Centre, Cardiff Bay
Cyfnod yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Eisteddfod Genedlaethol 2018, Caerdydd

Rydym ni’n adnabyddus am ein cestyll, â thros 600 ohonynt yma. Cafodd rhai, fel Castell Cricieth a Chastell Carreg Cennen, eu codi gan dywysogion Cymreig cynhenid; cafodd eraill, fel cestyll ‘cylch haearn’ Edward I ym Miwmares, Harlech, Caernarfon a Chonwy, eu codi gan luoedd gormesol. Mae yma hefyd gestyll ffug, wedi eu hadeiladu er sioe yn hytrach na fel gwarchodfa. Efallai mai’r enwocaf o’r rheiny yw Castell Coch o’r cyfnod Fictorianaidd â’i dyrrau tylwyth teg siâp côn.

Mae traddodiadau ac arferion yn clymu cenedl fodern Cymru heddiw gyda’i gorffennol. Ar y cyntaf o Fawrth, daw’r wlad ynghyd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, lle mae plant yn gwisgo mewn gwisg draddodiadol Gymreig neu’n gwisgo crys coch un o’n timau cenedlaethol. A chyn bod ein cyfeillion dros y ffin yn cyfnewid cardiau ar Ddydd San Ffolant, rydym ni’r Cymry wedi dathlu cariad yn gynharach yn y flwyddyn. Mae gan ein santes cariadon ni, Santes Dwynwen, ei diwrnod ei hun yma ar 25 Ionawr.

Tu allan i Gastell Caerdydd yn y nos
Y tu allan i Gastell Caerdydd gyda’r nos

Ar ben hynny, mae diddordeb mewn diwylliant poblogaidd yn rhywbeth rydym ni’n ei rannu yng Nghymru hefyd. Fe brofwch chi hynny wrth weld y cyffro wrth aros am y prif act yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, neu yn yr adloniant cyn gêm rygbi pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Stadiwm y Principality. Mae’n deimlad sy’n cael ei grynhoi’n dda yn slogan ein tîm pêl-droed, pan helpodd sgiliau Gareth Bale y tîm i gyrraedd rownd gyn-derfynol Ewros 2016: Gyda’n Gilydd. Yn Gryfach.

Ac er nad ydym ni eisiau canmol ein hunain ormod, rydym ni wedi bod yn profi dipyn o oes aur gyda’n llwyddiannau chwaraeon diweddar. A fentrwn ni sôn am fedalau aur Olympaidd taekwondo Jade Jones, buddugoliaeth Geraint Thomas yn y Tour de France a chapteiniaeth Sam Worburton dros dîm rygbi Prydain, y Llewod?

Gareth Bale yn gweithredu Cymru v Iwerddon cynrychiolydd
Gareth Bale

P’un ai ydych chi’n byw yma neu’n ymweld, mae Cymru’n siŵr o ddal ei gafael arnoch chi. Dyna pam fod gadael y wlad yn achosi teimlad o hiraeth (y gair Cymraeg hwnnw nad oes cyfieithiad ohono).

Rydym ni’n genedl fodern â chalon hynafol, a dyna ein hunaniaeth.

Rydym ni’n caru ein gwlad ac rydym ni’n falch iawn ohoni, ond rydym ni hefyd yn falch o fod yn ddinasyddion y byd. Mae allfudwyr o Gymru wedi teithio, ac wedi ymgartrefu, yn bron i bob un o wledydd y byd. Caerdydd, sef ein prifddinas, oedd y gymuned amlddiwylliannol gyntaf yn y Deyrnas Unedig. Rydym ni’n sicr yn teimlo’n rhan o gymuned ehangach y byd hefyd, ac rydym ni’n benderfynol o fod yn ddinasyddion da yn y byd. Wedi’r cwbl, rydym ni’n rhannu’r un blaned, ac rydym ni’n wynebu’r un heriau.

Mae gan wledydd blaengar fel ein gwlad ni syniadau mawr sy’n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn.

Felly dyma Gymru.

Croeso i Gymru.

Straeon cysylltiedig